MR. ELIAS J. GRIFFITH. DANIELSVILLE, PENNSYLVANIA.
Danielsville, Pennsylvania, Ebrill 26ain. Fel y crybwyllwyd eisoes, bu gwrthrych ein hysgrif farw ar y 29ain o Fawrth, yn nhy ei ferch, Mrs. O. D. Jones, Wilkes-barre, Pennsylvania; a deuwyd a'i weddillion yma i'w claddu, yr hyn gymerodd le Ebrill yr 2il yn mynwent newydd, Cherryville. Awd a'r corff o'r ty i gapel newydd a hardd yr Evangelical, pryd y gwasanaethwyd yn dyner a theimladwy gan y Parchn. Thomas Knecht a Hugh Hughes, Bangor, Pennsylvania. Canwyd amryw donau Cymreig, ac yn eu mysg un o'i hoff emynau, "Er nad yw'm cnawd ond gwellt," a.y. Caed amryw o quartetts gan gantoriom yr eglwys; ac yr oedd yr holl wasanaeth yn dra effeithiol. Cafodd angladd lluosog a pharchus iawn; ac yr oedd yr arch yn orchuddiedig gan flodau.Wedi myned am ymweliad a'r teulu tua'r Nadong i Wilkesbarre yr oedd yr hen Gadfridog. Tra yno cymerwyd ef yn wael, ac yr oedd ar gyfrif ei oed mawr (tua 80) yn rhy wan i wella er pob ymdrech wnaed ar ei ran. Yr oedd ei brofiad yn ei fynydau olaf yn felys a pheraidd, a'i hyder yn gryf. Amlygai awydd gwella er mwyn iddo gael dyfod adref i Danielsville, gan ei fod wedi clywed fod ein heglwys wedi ychwanegu yn ddirfawr yn ei rhif er pan aeth i ffwrdd. Ei brif hyfrydiwch oedd ty Dduw ac ordinhadau y cysegr.
Daeth i'r wlad hon, tua 50 mlynedd yn ol, ac yma y treuliodd ei holl amser bron, oddigerth yr yohydig a fu yn Jersey, a rhyw ychydig o fanau eraill. Un o Bryn Llys, Dinorwig, Arfon, Gogledd Cymru, oedd, ac wrth yr enw "'Lias Griffith, Bryn Llys," yr adwaenid ef gan bawb yn mhell ac yn agos.
Bu yn briod ddwywaith, ac yr oedd yn dad, i ddwy ferch a mab o'r wraig gyntaf, ac un mab o'r ail wraig; sef y ddiweddar Mrs. W. Williams (Wil Bach y Ddol), Walnutport; John Elias, Danielsviile; Mrs. Owen D. Jones, Wilkesbarre, Pennsylvania, a George Griffiths o'r ail wraig, yr hwn yn nghyd a'i deulu a'i fam sydd yn byw yma.
Teimlir chwithded mawr ar ei ol yn yr ardal hon, ac yn enwedig yn ein heglwys fechan, o'r hon yr oedd yn aelod. Yr ydym wedi cael colledion ar ol dynion gweithgar a llafurus yn ystod y blynyddoedd diweddaf, dynion oedd yn hallt yn erbyn drygau, dynion oeddynt yn golofnau cedyrn o dan achos Mab Duw yn ein plith, sef John Williams (Nant Bach); Hugh Roberts, Slatington, y rhai sydd wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr; a John Griffith, New York. Bu yntau yma am amser maith hefo ei ewythr, yn nghyd a'r rhai nodwyd, yn gweithio yn ddiwyd a ffyddlawn, a da iawn oedd genym fel ardal ei weled yn angladd yr hen dad. Nid oes yn aros o'r hen frodyr heddyw ond y brawd John G. Jones, ac y mae yntau hefyd yn gwneyd ei oreu.
Ond os ydyw yr hen gadfridogion wedi eu cymeryd ymaith, mae yma rai gweithgar eto yn gofalu am yr achos, a diolch am hyny. Nid oedd neb yn teimlo mwy o ddyddordeb ynddo nag Elias Griffith. Hir gofir gan aml i bregethwr a godwyd i bregethu yn nghylch Cyfarford Dasbarth Deheuol Pennsylvania; am y gefnogaeth a roddai efe iddynt; yr oedd wrth ei fodd yn dal breichiau. yr ieuanc i fyny, os y byddai y tueddiad lleiaf ynddynt i wneyd diaioni. Mwynhad ac hyfrydwch ganddo fyddai gweled brawd neu chwaer ieuanc crefyddol yn dod i'r ardal, a byddai ar unwaith yn gwneyd ei holl egni tuag at iddynt fod yn gartrefol. Dichon ei bod hi fel arall mewn llawer lle - yr ieuenctyd yn cael eu hesgeuluso, ac ddim yn cael y gefnogaeth ddylent gael.
Peth arall oedd yn nodweddu ein harwr oedd ffyddlondeb a thynerwch. Byddai yn y capel ar bob tywydd, a hyny yn brydlon. Er ei fod er's amser maith wedi ei amddifadu o'i glyw, eto i gyd byddai wrth ei fodd yn moddion gras, er feallai yn aml ddim wedi clywed na deall bron yr un gair. Yr oedd yn deyrngarol i'r eglwys, oblegid ei fod am i bob symudiad fod yn drefnus ac i'r iawn gyfeiriad. Erbyn hyn mae ei le yn wag, ac ni cheir clywed ei brofiadau melus; ond hyderwn y bydd i'w gyngorion gwerthfawr lynu wrthym hyd nes y byddwn ninau yn cael ein galw i'r un daith ag yr aeth yntau iddi.