MRS. JENNETT GRIFFITH. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Slatington, Pennsylvania, Chwefror 22ain. Y mae eglwys y T. C. wedi colli tair o chwiorydd yn agos iawn i'w gilydd. Y gyntaf oedd Mrs. Jennett Griffith, gwraig William. J. Griffiths, gynt o Llanrug, Gogledd Cymru.

Yr oedd Mrs. Griffiths yn ferch i David Jones y Ddol, Llanberis; ac iddi lawer o frodyr a chwiorydd; ond nid wyf yn gwybod pa nifer o honynt sydd fyw yn awr. Y mae Foulk Jones ei brawd yn byw yn West Bangor, fel y deallwyf.

Yr oedd y chwaer hon tua 72 mlwydd wedi bod yn hynod grefyddol ar hyd ei hoes, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf a fu mewn eglwys erioed - yn y cwrdd gweddi, y seiat, yr ysgol Sabbothol, a'r bregeth.

Dywedwyd yn ei hangladd ei bod wedi tarddu o un o'r teulu duwiolaf yn Llanberis, a chlywais R. R. Williams yn dweyd rhywbeth i'r un cyfeiriad.

Gadawodd briod; un ferch, a dau fab i alaru ar ol un o'r mamau mwyaf tawel duwiolaf aeth i fedd erioed.
GAN O. G. OWEN.

Y Drych Mawrth 1af 1900.