MR. JOHN D. GRIFFITH. PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 21ain, 1900.
Dydd Llun, yn ei gartref ar ei fferm yn agos i Hinckley, New York, bu farw John D. Griffith, yn 75 mlwydd 1 mis 28 diwrnod oed.

Ganwyd ef yn Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad hon pan yn 25 oed, gan ymsefydlu yn agos i'r lle hwn. Bu yn dylyn yr alwedigaeth o faen gerfiwr am flynyddoedd.

Bu yn dderbyniwr o'r "Drych" er pan ei sefydlwyd yn 1851. Bu hefyd yn Werinwr selog ar hyd ei oes. Adnabyddid ef fel dyn o gymeriad gonest a dilychwin.

Gadawodd i alaru eu colled ddau frawd, David D. 5 Steuben Street, Utica, New York; Owen yn Trenton, New York, a thair chwaer, un yn Nghymru, un yn California ac un yn Cambria, Wisconsin; hefyd dau fab ac un ferch, John D., ieuanc, Hinckley. New York; Owen R., a Mrs. John G. Lewis. Remsen, New York.

Dydd Mercher, yr 21ain, ymgasglodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. E. G. Williams, Remsen. Dodwyd ei gorff i orwedd wrth ochr ei wraig yn mynwent Prospect.

Y Drych Tachwedd 29ain 1900.