MRS. ANN GRIFFITHS. COLUMBUS, WISCONSIN.
Gorphenaf 6ed, 1900, yn Columbus, Wisconsin, ar ôl amryw wythnosau o gystudd trwm dan y typhoid fever, bu farw Mrs. Ann Griffiths, anwyl briod Evan G. Griffiths, yn 61 mlwydd oed.Cymerodd yr angladd le Gorphenaf yr 8fed. Claddwyd hi yn mynwent Bethel. GweinyddWyd ar yr achlysur yn absenoldeb gweinidog yr eglwys gan y Parchn. John R. Jones a Josiah Daniels.
Dywedir fod yr angladd yn un o'r rhai mwyaf lluosog a welwyd yn y cylch. Ganwyd Mrs. Griffiths mewn lle o'r enw Coed Marian, yn agos i dref Caernarfon, yn mis Mai, 1839. Ei rhieni oeddynt Owen ac Ann Owens. Yr oedd yn un o naw o blant.
Yn y fìwyddyn 1845 daeth hi a'i rhieni i'r wlad hon. Treuliasant y flwyddyn gyntaf yn ardal Steuben, Oneida County, New York.
Yn y flwydd- yn 1846 symudodd y teulu i ardal Salem, Columbus, Wisconsin, lle y treuliodd y rhieni weddill eu hoes.
Yr oedd Owen Owens yn ddiacon o radd dda yn eglwys Salem. Yn Mehefin, 1861, priododd gwrthrych ein sylw ag Evan G. Griffiths o ardal Bethel, Columbus, ac aethant i gartrefu ar fferm o'r enw Bryncroes, lle y treuliodd hi y gweddill o'i hoes, ag eithrio y ddwy flynedd a haner diweddaf, y rhai a dreuliodd yn nhref Columbus.
Ganwyd iddynt bump o biant, dau fab a thair o ferched, pedwar o ba rai sydd yn awr yn fyw, sef Owen E. yn yr hen gartref; John E. yn Randolph, Wisconsin; Esther, priod Thomas W. Hughes, yn Columbus; a Jane Ann, yn Chicago (ond sydd yn awr yn cadw tŷ i'w thad yn Columbus). Claddasant Maggie, yr ail ferch, Tachwedd 25ain, 1889, yn 22 mlwydd oed, yr hyn oedd yn brofedigaeth chwerw iawn i'r teulu.
Gadawodd Mrs. Griffiths i alaru ar ei hol, heblaw llu o berthynasau a chyfeillion, briod ffyddlawn, pedwar o blant, mam oedranus 92 mlwydd oed, yr hon sydd yn cartrefu gyda'i hwyrion yn yr hen gartref, dau o frodyr a thair o chwiorydd, sef Owen Owens yn ardal Salem, Columbus; Mary, priod E. R. Roberts, Cefnycoed, Columbus; Dolly, sydd yn briod â Thomas Evans, Lake Crystal, Minnesota; John, sydd yn byw yn Blue Earth, Minnesota; a Winnie, priod Hugh Williams, Chicago.
Yr oedd Mrs. Grifflths yn gymeriad rhagorol iawn, ac iddi air da gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn Gristion diameuol, ac yn ffyddlon a charedig gydag achos y Gwaredwr yn mhob cylch. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn ieuanc iawn. Parhaodd yn ffyddlon i Grist ar hyd ei hoes, ac yr oedd ei bywyd dichlynaidd a duwiol yn addurn i grefydd. Yr oedd yn wraig ddarbodus, tawel ei meddwl a thangnefeddus ei hysbryd. Teimlir colled a hiraeth ar ei hol, nid yn unig yn y cylch teuluaidd ac yn mhlith y perthynasau, eithr hefyd yn yr eglwys a'r gymydogaeth.
Dymunwn nawdd Duw dros y priod yn ei unigrwydd a'i hiraeth, a'r plant yn eu hamddifadrwydd o fam dyner, gofalus a duwiol.
G. Griffìths.