MR. EDWARD H. GRIFFITHS. BROOKLYN, NEW YORK.
Dydd Sadwrn diweddaf, yn Brooklyn, New York, bu farw Edward H. Griffiths o'r pneumonia, yn 29 oed.Ganedig oedd o Towyn, Meirionydd, ac ymfudodd i'r wlad hon gyda'i rieni, Mr. a Mrs. Owen Griffiths, tua pymtheg mlynedd yn ol, gam ymsefydlu yn Utica. Bu yn trigo am dymor yn Cleveland, Ohio, o'r hwn le y dychwelodd i Utica.
Tua thair blymedd yn ol, aeth i YsgoI Barotoawl y Parch. D. L. Moody, Mount Hermon. Bu am flynyddoedd yn aelod o Eglwys Bethesda, ac wedi hyny o Eglwys Olivet (Presbyteraidd).
Claddwyd ef yn Cedar Grove Cemetery, Long Island City.
Gedy dri brawd: William, Cleveland, Ohio; David M., Brooklyn, a Daniel, New York.