MR. JOSEPH W. GRIFFITHS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 12fed, 1900, bu farw Mr. Joseph W. Griffiths o'r pneumonia, ar ol byr gystudd. Cleddir ef ddydd Sadwrn.Yr oedd yn aelod defnyddiol a gweithgar o eglwys y M. C., Granville, a theimlir colled neillduol ar ei ol.
Genedigol ydoedd o Bethesda. oed 54, wedi ei ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd. Daeth i America o Ffestiniog 28 mlynedd yn ol, ac ymbriododd yn Middle Granville 23 mlynedd yn ol a Miss Winnie Jones, chwaer i'r brodyr John L. a Richard L. Jones. South Poultney, y rhai sydd o ardal Ysbyty Ifan.
Cefais lawer o hyfrydwch yn nghwmni y brodyr hyn yn trin helyntion bore oes yn Pont y Paddock, Pentrefoelas ac Ysbyty Ifan. Yr oedd Eisteddfodau Dyffryn Conwy, pa rai a gynelid yn flynyddol ar y Nadolig ar gylch y pedwar plwyf - Ysbyty Ifan, Penmachno, Dolwyddelen a Bettwsycoed yn fagwrfa ac yn feithrinfa i rai o dalentau dysgleiriaf Cymru.
Byddai pertrwydd englynol Tudur Arfon, Tegonwy Gwrtheyrn, Owen Cethin Jones, Trebor Mai, Llugwy a Gwilym Cowlyd. yn goglais cynulleidfaoedd i lesmair Mae yn rhyfedd genyf cyn lleied o ysgrifenu sydd am danynt, ac am eu gwaith llenyddol. Byddai ambell benod o adgofion llenyddol Dyffryn Conwy yn ddyddorol dros ben i lawer heblaw yr ysgrifenydd.
Pwy a'i hvsgrifena? Yr oedd y diweddar Owen Cethin Jones yn nodedig fel olrheiniwr i hynafiaethau y pedwar plwyf, ac y mae ffrwyth ei ymchwiliad wedi ei gyhoeddi ynghyd a chyfrol o farddoniaeth flasus. Nid oes yn un man ardaloedd mwy llawn o hynafiaethau a helyntion Cymru Fu na'r pedwar plwyf, ond ychydig iawn sydd wedi ymddangos am danynt.