MARWOLAETH MRS. MARGARET GRIFFITHS.

SOUTH POULTNEY, VERMONT. Chwefror 9fed, 1900.

Mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth un o oreuon ein hardal, sef Mrs. Margaret Ann Griffiths, priod Richard Griffiths o'r peritonitis, bore Sadwrn y 3ydd cyfisol.

Yr oedd wedi rhoddi genedigaeth i ferch fechan nos Sul, Ionawr 21ain, a phan oedd ei theulu a'i chyfeillion yn edrych yn mlaen am adferiad buan iddi, cymerwyd hi ymaith yn dra sydyn.

Ganwyd hi yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn 1864, felly yr oedd yn 35 mlwydd oed. Enwau ei rhieni oeddynt Hugh ac Ann Roberts (Capel Gwyn), Llan Ffestiniog.

Medi 13, 1881, ymunodd mewn glan briodas a Richard Griffiths, mab John a Catherine Griffiths, Cwm Bowydd Road, Ffestiniog, ac yn fuan wedi hyny ymfudodd y ddau i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn South Poultney, a thrwy ddiwydrwydd a chynildeb teilwng yr oeddynt wedi gwneyd cartref clyd a phwrpasol iddynt hwy a'u rhai bychain; ond mor frau ac ansicr, onide, ydyw llinyn einioes!

Dyma fylchio teulu o wyth am y tro cyntaf, gan eu hamddifadu o'r un fwyaf amgenrheidiol at eu cysur a'u dedwyddWch. Daeth tyrfa luosog yn nghyd y Llun canlynol i dalu y gymwynas olaf iddi, pryd y gwasanaethwyd yn rymus a tharawiadol gan y Parch. J. W. Morris.

Yn y ty am un o'r gloch prydnawn, bedyddiwyd yr amddifad fechan dwy wythnos oed uwch gweddillion ei mam gan ei galw yn Margaret Ann; yna awd i'r capel, lle y cynaliwyd moddion angladdol am ddau o'r gloch, ac yna hebryngwyd ei gweddillion i'w daearu yn mynwent Poultney.

Nodweddion amlycaf yr ymadawedig, oeddynt caredigrwydd syml a phur, a gonestrwydd diffuant. Yr oedd fel priod a mam yn ddoeth, tirion ac amyneddgar; yn gymydoges garedig a hollol ddiabsen, ac yn Gristion selog a ffyddlawn.

Gadawodd i alaru ar ei hol, briod a chwech o blant, yr hynaf yn 14 mlwydd oed, a'r ieuengaf yn faban newydd-anedig, ac un brawd, sef Owen Roberts o'r lle hwn. Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu galarus yn eu profedigaeth lem, ac erfyniad gyffredinol yr ardal ydyw, nawdd y nef fyddo drostynt.
T. E.

Y Drych Chwefror 15fed 1900.