MRS. ANN HUGHES. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Slatington, Pennsylvania, Medi 22ain, 1900.Ar y 15fed cyfisol bu farw Ann, gwraig W. L. Hughes, mewn canlyniad i'r parlys. Cafodd ei tharo yn mis Mai, ac ail ergyd. Medi 14eg, o'r hon ni ymadferodd.
Ganwyd Ann Hughes yn Llanberis 70 mlynedd a 9 mis yn ol. Ymfudodd i America yn 1850 gyda'i gwr, gan ymsefydlu yn Washington Township, Pennsylvania. Bu iddynt ddeuddeg o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw, sef Hugh W. Hughes, New York; Ellen W. Hughes, Newburg, New York; D. W., Hughes, arolygwr y Meadow Brook Slate Company a W. W. Hughes, ysgrifenydd yr un cwmni.
Hanai Ann Hughes o un o deuluoedd mwyaf parchus Llanberis. Enw ei thad oedd Hugh William, ac enw ei mam Jane Morris, Cwm Glas, chwaer i William Morris, un o hen flaenoriaid y Nant Ucha.
Yr oedd yr ymadawedig yn hynod am ei haelioni i'r tlawd. Ni fwriodd neb allan yn waglaw.
Mae iddi chwaer yn New Yrok o'r enw Laura Williams, a chwaer yn Philadelphia, Gwen Williams.
Dymunir i bapyrau Cymru godi yr hanes.
Un o'r Lle.