MR. OWEN LEWIS HUGHES. SLATINGTON, LE HIGH, PENNSYLVANIA.
Ebrill 3ydd, bu farw yn hynod sydyn, o'r pneumonia, y brawd tawel a chymwynasgar Owen L. Hughes, mab-yn-nghyfraith Robert W. Parry, 2nd Street.Bu y newydd o'i farwolaeth annysgwyliadwy yn ddychryn i bawb o honom. Yr oedd pawb a gair da iddo fel gweithiwr tawel, cyfaill cywir a chymydog cymwynasgar.
Ganwyd ef yn ardal Ebenezer, Swydd Llandinorwic, Gogledd Cymru.
Er mwyn ei luosog gyfeillion y rhai sydd yn Vermont a manau eraill, mynegwn y ffaith iddo fod yn briod gyda merch y bardd Dewi Peris Jones.
Yr oedd yn aelod, o urdd y Knights of Pythias, pa rai oedd yn cymeryd trefniadau yr angladd. Bydded i nawdd y nefoedd fod dros ei briod a'i fachgen bach, pa rai sydd yn teimlo mor ddrwg yn yr amgylchiadau presenol.
Fel hyn y canodd Clegir wrth briddo poor Cilgwyn:
Mab tawel yn mhob tywydd - llafurus
Mewn llyfrau, a chrefydd -
Y diniwed awenydd,
Yn ysu daith nos a dydd.
Y Drych 19/04/1900.
MR. OWEN HUGHES. SLATINGTON, LE HIGH, PENNSYLVANIA.
Bu farw y brawd caredig Owen Hughes ar ol dim ond pedwar diwrnod o gystudd, yn 40 mlwydd oed.Mab ydoedd i Lewis a Jane Hughes, Bryndu, Llandinorwig. Daeth i America tua 15 mlynedd yn ol.
Claddwyd ef yn barchus o gapel Bethel (A.), lle yr oedd yn aelod, y Parch. W. M. Davies yn gweinyddu.
Gadawodd frawd yn y wlad hon a chwaer yn Bethesda; hefyd, priod ac un plentyn, ei anwyl Robert L.
Barnwr y gweddwon fyddo yn nodded iddynt.