MR. WILLIAM HUGHES. SOUTH POULTNEY VERMONT.

DAMWAIN ANOEUOL.

Tuag 8 o'r gloch- bore dydd Mawrth, Awst 14eg, taniodd ergyd yn sydyn yn chwarel R. E. Lloyd, yn North Poultney, gan anafu William Hughes yn angeuol. Drylliwyd asgwrn ei en a'i wyneb yn ddychrynllyd, torwyd un fraich bron yn glir oddiwrth, y corff, a maluriwyd ei goes. Yr oedd golwg dorcalonus ar y truan, yr hwn hefyd a niweidiwyd yn fewnol. Ni bu fyw ond tair neu bedair awr ar ol y ddamwain.

Gadawodd ar ol wraig a chwech o blant; hefyd un wyr. Yr oedd yn ddyn diwyd a pharchus, 41 mlwydd oed.

Flynyddau yn ol cyfarfu a damwain o'r blaen yn y chwarel, a bu yn analluog am amryw fisoedd.

Claddwyd ef yn South Poultney ddydd Iau, y Parch. J. W. Morris yn gweinyddu.

J. L. J. a ysgrifena: "Er nad yn aelod eglwysig, yr oedd Mr. Hughes yn hynod ffyddlawn yn moddion gras; yn athraw yn yr Ysgol Sul; yn gymydog dymunol, bob amser yn barod ar haner nos, yn gystal ag ar haner dydd i wneyd cymwynas hyd y gallai. Gadawodd wraig a phlant a gwaith magu arnynt eto. Duw o'i ras fyddo yn Farnwr i'r weddw ac yn Dad i'r Amddifaid.

Mab ydoedd i John Hughes a Catherine Hughes. Ganwyd ef yn Tai Newyddion, Llanor, yn agos i Pwllheli; ac mae iddo dri brawd yn yr Hen Wiad."

Dymunir i bapyrau Cymru godi yr hanes.

Y Drych Awst 16eg 1900.


MR. WILLIAM HUGHES. SOUTH POULTNEY VERMONT.

On Tuesday morning about 8 o'clock William Hughes, who resided in South Poultney, but worked for R. E. Lloyd in the north part, while blasting a hole for the second time, met with a terrible death. It is supposed that the fire was not all out after the first blast (which failed to do its work satisfactorily) when he poured in some powder, which ignited and tore him in a fearful manner. His jaw was torn off, and face generally mangled, one arm was almost torn off the body and leg shattered. It was a terrible and sickening sight to witness.

He lived until about 12 o'clock, nearly four hours in agony, beyond description. He was at once carried to his home, where he lived awhile, and in such a condition it was relief to see him pass away.

Mr. Hughes leaves a wife and six children and one grandchild, whose mother died awhile ago.

He was forty-one years old, a steady, hard working, industious man. Several years ago he met with an accident in the quarry, which deprived him from his labor for many months and a big family to care for.

His funeral will take place on Thursday afternoon, at the South Poultney church at 2 o'clock

The Poultney Journal ~ August 17th 1900.