MR. W. R. HUGHES. COLLINSVILLE, NEW YORK.
Medi 8fed, 1900, yn nghartref ei ferch. Mrs. Jennie Wetmore, yn Collinsville, bu farw Mr. William R. Hughes, ar ôl hir nychdod, yn 84 mlwydd oed.Ganwyd Mr. Hughes Gorphenaf 31ain, 1816, yn Ty'n y Ddol, gerllaw y Bala, Gogledd Cymru.
Ymbriododd Ionawr 25ain, 1839, gyda Miss Jane Jones, Rhyd y Defaid yn yr un ardal.
Daethant hwy a'r teulu i'r wlad hon yn Gorphenaf, 1851, gan ymsefydlu i ddechreu yn Constableville, ac wedi hyny weddill eu hoes yn Collinsville.
Ganwyd iddynt un ar ddeg o blant, y rhai sydd oll ond un yn fyw - saith o feibion a thair o ferched, sef yr Anrh. Hugh Hughes, Turin, a'r Anrh. James Hughes, Nangatuck, Conneticut.; Robert Hughes, Michigan; Ellls Hughes, Bristol, Conneticut; William Hughes, David Hughes, John Hughes a Mrs. Hugh D. Jones, Mrs. Gwen Williams a Mrs. Jennie Wetmore, oll o Collinsvìlle.
Ychydig o rieni sydd wedi cael y fraint o fagu teulu mor luosog, a chael byw i'w gweled yn codi i sefyllfaoedd cysurus a pharchus mewn cymdeithas. Cafodd Mr. a Mrs. Hughes bob gofal a charedigrwydd gan y teulu yn eu henaint a'u gwaeledd. Bu farw Mrs. Hughes oddeutu pedair blynedd yn ôl, ac wedi hyny bu Mr. Hughes yn nychu gan henaint a gwaeledd, ond cafodd hyd y diwedd bob cymorth a chysur ellid weinyddu iddo gan serch a charedigrwydd ei feibion a'i ferched.
Amaethwr parchus oedd Mr. Hughes wrth ei alwedigaeth. Flynyddau yn ôl teimlai ddyddordeb neillduol mewn materion amaethyddol, yn y ffeiriau amaethyddol y Sir a'r Dalaeth. Enillai yn fynych y prif wobrwyon am yr anifeiliaid goreu, ac hefyd am aredig, a.y. Ar un achlysur enillodd y brif wobr yn ffair y Dalaeth am aredig pan oedd 21 yn cystadlu.
Yr oedd hefyd yn life member yn Nghymdeithas Amaethyddol Lowville. Yr oedd Mr. Hughes yn adnabyddus ac yn barchus iawn drwy yr ardaloedd fel dinesydd a chymydog. Fel dinesydd teimlai ddyddordeb mewn materion gwladwriaethol, ac yn neillduol yn llwyddiant y blaid Werinol. Fel cymydog, yr oedd yn gymwynasgar a charedig, ac yn barod bob amser i gynorthwyo eraill mewn amgylchiadau cyfyng a phwysig. Yn ei gartref yr oedd o dymer siriol a hynaws, yn briod a thad tyner a serchog.
Yr oedd hefyd yn aelod defnyddiol a pharchus yn eglwys y T. C yn Collinsville, gan fod yn ffyddlon gyda gwahanol ranau yr achos. Drwy ei oes teimlai ddyddordeb neillduol yn yr Ysgol Sabbothol. Bu yn arolygwr ffyddlon am lawer o flynyddau, ac yn selog iawn dros ei llwyddiant. Yr oedd hefyd yn wresog o blaid y Feibl Gymdeithas Americanaidd, gan ymdrechu bob amser cael casgliadau teilwng er ei chynorthwyo. Yr oedd yn hoff o foddion gras, ac yn hoff o ddarllen y Beibl, a phregethau, a llyfrau da eraill. Adgoffai yn aml yn ei henaint hen adnodau ac emynau a ddysgodd pan yn ieuanc. Un o'i hoff emynau oedd - "Oferedd fy meddwl, O maddeu,' a.y.; hefyd "O ddydd i ddydd, o awr i awr," a.y.
Tua diwedd ei oes yr oedd yn amlwg fod ei brofiad yn addfedu i'r wlad well. Yr oedd yn colli blas ar y byd â'i bethau, a'i hiraeth yn cryfhau am yr orphwysfa nefol. Crist a'i groes oedd cyhwys ei ffydd a sail ei obaith, ac felly yr hunodd yn dawel yn yr lesu, gan wireddu y geiriau, "Gwyn fyd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan; ie medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur."
Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Mawrth canlynol, pan y daeth lluaws mawr o berthynasau a hen gyfeillion yn nghyd i gapel Collinsville, fel arwydd o barch i'w goffadwriaeth.
Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac yn y capel gan y Parchn. E. C. Petrie, Turin; James Fenner, Port Leyden; David L. Roberts, Glenfield, ac E. C. Evans, Remsen. Gweinyddodd ei feìbion fel bearers. Claddwyd y gweddillion yn meddrod y teulu yn Turin, New York.