MRS. CATHERINE JONES. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Merch ydoedd i Daniel ac Ann Thomas, Gwyddgwian, Towyn, Sir Feirionydd, lle y ganwyd hi Medi 8fed, 1821.Priododd â Daniel Thomas yn y flwyddyn 1841, a ganwyd iddynt ddwy ferch, Mrs. Ann Howell, gweddw y diweddar Richard R. Howell, Ysw., Racine, Wisconsin, a Mrs. David Hughes, Milwaukee, Wisconsin. Bu ei phriod farw yn y flwyddyn 1846.
Yn mhen tua phum' mlynedd ar ôl marwolaeth ei gŵr daeth hi yn nghyd a'i dwy ferch i Racine, Wisconsin. Yn y flwyddyn 1851 priododd â Mr. John T. Jones, ond ni chafodd ei gŵr fyw ond ychydig fisoedd. Bu y brofedigaeth fawr hon mewn gwlad newydd, dangosodd ei bod yn meddu ar y nodweddion oedd yn amlwg yn yr hen arloeswyr cyntaf, ac ymwrolodd i gynal ei hun a'i phlant.
Yn y flwyddyn 1857 priododd drachefn â Richard Jones, Bron Berllan, Waukesha, Wisconsin. Ganwyd iddynt un mab, sef Daniel R. Jones, druggist, Milwaukee, Wisconsin. Gadawodd, angeu lonydd i'r undeb hwn hyd y flwyddyn 1886, pryd y bu Mr. Jones farw.
Oddiwrth y byr amlinelliad uchod, gwelwn i'r fam hon yn Israel gael ei rhan o ofalon a phrofedágaethau yr anialwch, ond daliodd y prawf yn rhagorol. Yn ystod ei gweddwdod o'r flwyddyn 1851 i 1857, yn Racine, Wisconsin, bu y boneddwyr Dr. Ll. Ioan Evans, John Roderick, R. P. Howeil, Thos. Ll. Williams ac eraill yn cartrefu gyda hi.
Gofalai y pryd hwnw am y ddyledswydd deuluaidd, a byddai y dynion ieuainc yn ei chadw yn eu tro. Dengys hyn ei chrefyddolder, ffrwyth magwraeth grefyddol ar aelwyd Gwyddgwian, a dylanwadau parhaol yr Ysbryd Glan ar ei chalon.
Bu yn nodedig o ffyddlon i ddylyn moddion gras y blynyddau diweddaf hyn yn Milwaukee a Racine. Ni welsom neb erioed mor barod i farw ag ydoedd hi. Teimlwn ei bod yn gwir ddymuno am i'r Arglwydd wneyd â hi yn ôl fel y gwelai efe yn dda. Llawer gwaith y dywedodd yn ystod ei salwch, "Ei ewyllys ef a wneler; ie, ei ewyllys ef."
Bu yn nychu am rai misoedd, ac er pob gofal oedd yn bosibl i blant a meddyg ei roddi ehedodd ei hysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes, Awst 14eg, 1900.
Yr oedd y dyrfa fawr ddaeth yn nghyd i'w hangladd yn dangos y parch mawr oedd iddi yn ein plith. Cysured ei Duw ei phlant a'r wyrion oll. Gweinyddwyd gan y Parch. John E. Jones, Milwaukee, a'r ysgrifenydd.
Robert. T. Roberts.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1900.
MRS. CATHERINE JONES. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Awst 14eg, 1900, yn Racine, Wisconsin, Catherine T. Jones, yn 78 mlwydd a 11 mis oed.Dyoddefodd gystudd maith a phoenus oddiwrth cancer yn ei brest, gan fod yn dawel ac ymostyngar.
Merch ydoedd i Daniel ac Ann Thomas o'r Gwyddgwian, plwyf Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.
Priododd y waith gyntaf yn Nghymru, ond bu ei phriod farw yno, a gadawyd hi yn weddw gyda dwy o ferched, sef yn awr Mrs. Richard P. Howell o Racine, a Mrs. David Hughes, Milwaukee.
Yn 1851, daeth hi a'i dwy ferch i America, gan ymsefydlu yn Racine, lle yr oedd chwaer iddi yn cartrefu yn flaenorol. Yn 1857, ymbriododd a Richard Jones, Bronberllan, swydd Waukesha, y Parch. Wm. J. Jones, Snowdon, yn gweinyddu. Yr oedd Mr. Jones yn un o hen sefydlwyr Cymreig cyntaf y sefydliad, ac o safle barchus a dylanwadol mewn cymdeithas. Ganed iddynt un mab, sef Daniel R. Jones, druggist, Milwaukee, yn awr.
Wedi treulio lluaws o flynyddoedd yn Waukesha, aethant i Gymru; ac arosasant am bedair blynedd yn Aberystwyth a Rhydfendigaid. Dychwelasant i Racine yn 1870, ac oddiyno i Waukesha yn 1872, lle y trigasant hyd farwolaeth Mr. Jones yn 1886; yna bu Mrs. Jones byw yn Milwaukee hyd 1895, pryd y daeth i wneyd ei chartref yn Racine.
Cafodd ei dwyn i fyny ar aelwyd grefyddol, a gellir dweyd am dani hithau ei bod yn grefyddol o'i hieuenctyd; ac yr oedd ei bywyd yn cyd-dystiolaethu a'i phroffes. Yr oedd yn amlwg mai crefydd oedd ei phrif fater, a dygai fawr sel dros ordinhadau crefyddol; ac yr oedd ei dylanwad yn fawr ar bawb a ddeuai i gyffyrddiad a hi. Cafodd nerth i ymgynal dan ei chystudd poenus, ac i ymostwng yn dawel i ewyllys ei Thad nefol.
Pan ddaeth y diwedd yr oedd yn dymuno cael myned adref i wlad y gwynfyd pur. Cymerodd ei hangladd le o'i thy ar yr 16eg cyfisol, pryd y gweinyddwyd yn dra effeithiol gan ei hen weinidog, y Parchn. John E. Jones, Milwaukee, a'i gweinidog diweddaf, R. T. Roberts, D. D. Canodd pedwariaid emyn ag oedd hi wedi ei ddewis at yr amgylchiad, canys yr oedd wedi gwneyd holl drefniadau ei hangladd. Ei harchgludwyr oeddynt R. P. Howell, Ieu., Daniel Rees, Jessie a Gomer Hughes, wyrion, a John D. a Daniel Jones, neiaint. Yr oedd yr angladd yn lluosog, a daeth nifer o'i hen gyfeillion o Milwaukee i dalu y deyrnged olaf o barch i'w choffadwriaeth.
T. LI. W.