MR. DAVID G. JONES. EMPORIA, KANSAS.
Awst 23ain, 1900, bu farw yr hynafgwr David G. Jones, yn 72 mlwydd oed. Bu yn wanaidd ei iechyd am rai blynyddoedd, a chafodd amryw ergydion o'r parlys, yr hyn o'r diwedd a derfynodd yn angeuol iddo ar y dyddiad uchod.Yr oedd yn hanu o deulu enwog, yn fab i'r diweddar Barchedig Dafydd Jones, Beddgelert, yr hwn yn ei ddydd oedd yn weinidog tra adnabyddus yn Nghyfundeb y T. C. yn Nghymru. Mae yr hybarch John Jones, Emporia, yn frawd iddo, a hefyd y Parch. Daniel D. Jones, Upper Bangor, Gogledd Cymru, yn frawd arall. Cafodd fanteision addysg oreu ardal ei faboed yn y cyfnod hwnw. Gadawodd ei ardal enedigol, fodd bynag yn lled ieuanc, ac aeth i Liverpool, lle y bu mewn gwasanaeth i eraill, ac mewn masnach ei hunan am lawer o flynyddau.
Yma hefyd y priododd ac y claddodd ei wraig gyntaf, gan gael ei adael yn weddw gydag un ferch fechan, sef Mrs. M. C. Hughes, Emporia.
Ymbriododd eilwaith gyda Mrs. Catherine Prichard, yr hon sydd bellach mewn galar dwys ac unigedd mawr, "wedi bod yn hir gyd-deithio."
Bu iddynt dri o blant o'r briodas hon, ond yr oedd dau o'r tri wedi rhagflaenu eu tad i'r ochr draw i'r llen, er galar dwys iddynt fel teulu. Mae dau o'r meibion yn aros, ac mewn sefyllfaoedd da yn Elgin, Illinois, sef W. J. Prichard a Richard Jones.
Yn 1868 ymfudodd D. G. Jones a'i deulu i America, ac wedi aros yn Middle Granville, New York, am rhyw ddwy flynedd, symudasant i'r dref hon, lle y treuliodd weddill ei oes.
Mae sylwadau ei frawd am dano yn brudd-ddesgrifiad llawn o dynerwch, "Cafodd daith ddigon helbulus, druan. Er symud o'r naill le i'r llall, newid gwersyll mewn anialwch beunydd ydoedd; ond hyderwn fod y newidiad olaf yn newid anialwch am baradwys."
Cafodd angladd lluosog a pharchus. Gweinyddwyd yn absenoldeb yr ysgrifenydd gan y Parchn. Morgan Williams, W. R. Griffith, Proff. Hill a Mr. L. W. Lewis.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn uwchraddol ar lawer cyfrif. Yr oedd yn Ysgrythyrwr goleuedig, ac yn un o'r duwinyddion goreu yn ei oes. Yr oedd athrawiaethau trefn y cadw yn hyfrydwch iddo. Yr oedd hefyd yn dra chyfarwydd a iaith duwinyddiaeth, ac รข iaith gweddi a phrofiad y tadau. Gresyn fod amryw o'r hen dermau duwinyddol yn colli, a llawer o syniadau a brawddegau grymus yn anarferedig yn ein gweddiau bellach, ac nid wedi eu gadael am rai rhagorach yr ydym chwaith.
Hwyrach na chamgymerwn wrth ddweyd mai fel athraw yn yr Ysgol Sabbothol yr oedd y brawd D. G. Jones yn sefyll uwchaf a rhagoraf o bob man, a byddai ei ddosbarth yn atdynfa i'r myfyrgar a'r goleuedig bob amser. Yr oedd yn meddu ar gof rhagorol, a gallai adrodd testynau a phrif sylwadau braidd bob pregeth a wrandawodd, hyd yn nod yn Nghymru.
Chwith genym am dano mewn llawer cylch. Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon fyddo yn dyner o'i weddw, y plant a'r brodyr.
J. MICHAEL HUGHES.