MR. DAVID M. JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Marwolaeth ac Adgofion am Un o feibion yr "Hen Broffwyd" yn Bangor, Pa.
Bangor, Pennsylvania, Tachwedd 3ydd, 1900.Bu David M. Jones o'r lle hwn farw Hydref 24ain, yn 84 mlwydd oed.
Yr oedd yn fab i'r diweddar Barch. Morris Jones (Hen Broffwyd), Jerusalem, Bethesda. Arfon.
Daeth ef a'i briod ac un plentyn i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846, gan ymsefydlu am ychydig amser yn Rock Hill, Wisconsin. Aeth oddiyno i Portage Prairie, a chymerodd dir iddo ei hun, lle y bu yn ffermio am rai blynyddoedd. Symudodd oddiyno i Slatington, Pennsylvania, yn yr hwn le bu yn arolygu chwarel am beth amser. Oddiyno aeth i Vermont am dymor. Symudodd drachefn i Portage Prairie i amaethu ei fferm. Wedi bod yno y waith hon am rai blynyddoedd, gwerthodd ei fferm, a bu yn Cambria am dair blynedd yn gwerthu cig.
Adeg y rhyfel cartrefol symudodd i Chapmansville, Pennsylvania. Wedi bod yno am dair blynedd, daeth ei frawd Robert M. Jones (R. M.). yn ol o'r rhyfel, ac aeth at Dafydd yn ei wisg filwrol gan ei hysbysu ei fod wedi darganfod fortune, sef llechfaen yn y gymydogaeth hon. Yr oedd R. M. Jones yn anturiaethwr, a darganfyddiwr llechfeini diguro. Cymellodd Dafydd i fyned gydag ef i weled y darganfyddiad cyfoethocaf o lechi yn yr Unol Dalaethau. Nid oedd y man prydferth y saif Bangor arno yn bresenol, ond anialwch pan ddaeth D. M. Jones yma.
Ei briod ef oedd y Gymraes gyntaf ddaeth i'r gymydogaeth hon, a'r teulu Cymreig cyntaf i sefydlu yma ydoedd ei deulu ef. Gelwid y lle yr adeg hono yn New Village; ond fel yr aeth R. M. yn mlaen i agor chwarelau a ffurfio cwmniau, cafwyd post swyddfa i'r lle, a mynodd yntau ei alw yn Bangor, yn ol enw Bangor, Gogledd Cymru. Prynodd D. M. ddarn o anialwch yma, ac y mae rhai o brif adeiladau y dref, a Broadway Street yn sefyll arno yn bresenol.
Bu brawd arall iddynt, Moses M. Jones, yma yn anturio a gwario llawer o arian am flynyddoedd, ac efe yn unig sydd yn ar ol o feibion y "Proffwyd."
Nid oedd D. M.Jones fawr o fasnachwr nac anturiaethwr ymarferol; ond yr oedd yntau yn meddu ysbryd anturiaethus. Ceid ef o ddechreu y flwyddyn. i'w diwedd yn chwilio am Moses ei frawd, neu rywun arall i wneyd rhyw fusnes bach bach gyda hwynt. Gwrddai Dafydd yn dda fod Robert ei frawd yn deall busnes yn well nag ef. Aeth ato un tro i ofyn ei farn a'i gyfarwyddyd gyda golwg ar brynu tir a gynygid iddo yn rhad. Dywedodd R. M. y byddai yn ddoeth iddo ei sicrhau ar unwaith. Wedi iddynt ymadael a'u gilydd, aeth R. M. at y gwerthwr a phrynodd y tir iddo ei hun.
Tranoeth aeth Dafydd yn nghylch y fargen, pryd yr hysbyswyd ef fod R. M. Jones wedi prynu yr oll. Aeth ato yn gyflym a ffyrnig, gan ofyn iddo. "Robert, mewn difrif paham y gwnaethost dro mor wael a dy frawd wedi iddo ofyn cyngor genyt?" "O, nid oes brawd lle mae busnes, Dafydd, a dyna i tithau wers erbyn y tro nesaf," atebai y llall.
Teithiodd D. M. gryn lawer trwy rai o'r Talaethau i gynal cyngerddau gyda dau o'i blant, y rhai oeddynt ddeillion, sef Miss Margaret Jones a'r Prof. Morris Jones. Yr oeddynt wedi cael addysg gerddorol uchel, ac yr oedd yntau yn ganwr bas gwych. Anfynych y ceid ei well i lywyddu cyfarfodydd llenyddol, a.y., oblegid yr oedd yn ddoniol a ffraeth neillduol. Nid ceisio bod yn ddoniol y byddai, nis gallasai beidio bod. Yr oedd yn hoff o ddadleu yn fyr.
Cofiai hen dermau dadleuon yn Nghymru, y rhai a ddefnyddiai yn lled hwylus. Rhaid fyddai i'w wrthwynebydd fod yn ddystaw tra yr elai ef trwy ei lith. Yna gwenai yn awgrymiadol, ac ymaith ag ef gan siarad am ryw fater arall. Yr oedd ganddo doraeth o ystraeon doniol am Gymry yr amser gynt yn ceisio siarad Saesonaeg trwy arwyddion a rhyfeddodau; ond byddai raid i'r cyfan ddechreu neu ddiweddu yn Wisconsin.
Bu ar y Town Council yma am ddau dymor, a bu Moses ei frawd yn faer y dref.
Cafodd ran helaeth o brofedigaethau bywyd. Claddodd wyth o blant, ynghyd a'i anwyl briod. Er ei fod yn meddu calon dyner, eto nid oedd y profedigaethau yn cael argraffiadau dyfnion a pharhaol arno. Yr oedd rhyw ddigrifwch ac ysgafnder yn cyniwair fel trydan trwy ei gyfansoddiad. Atgas beth ganddo oedd son am farw. Pan ei hysbysid fod rhai o'i gyfoedion wedi marw, ei ddywediad fyddai, "Wel, dyna hen dro gwael." Pan geisid arwain ef i feddwl at ei farwolaeth ei hun, yr hyn a ddywedai fyddai, "Mae fy nheulu i yn myned yn hen iawn, ac yr wyf finau am geisio myned yn gant a haner."
Yn gorfforol yr oedd yn gryf, heinif ac ystwyth hyd y diwedd; ond yr oedd amser wedi effeithio ar ei gof. Dau o ddeg o'i blant sydd yn fyw, Ellen, priod John Rowlands, ac Annie, priod Morris J. Jones. Yr oedd wyrion ac orwyrion yn ei gladdedigaeth.
Gweinyddwyd gan y Parchn. Hugh Hughes ac Ifor Thomas.
GAN BENJAMIN W. JONES.