MR. EBENEZER W. JONES. NEW HARTFORD, NEW YORK.
Ganwyd E. W. Jones yn Tai'r Frest, Ffestiniog, yn y flwyddyn 1827. Ei rieni oeddynt William Jones ac Ellen Wilìiams, pa rai oeddynt dra adnabyddus yn mhlith hen drigolion Cwm Cynfal. Yr oeddynt yn nodedig am eu crefyddoldeb a'u gweithgarwch gyda'r achos da, yn enwedig Ellen Williams. Yr oedd hi yn gymeriad nodedig, yn wresog ei hysbryd, ac yn dylyn y cyfarfodydd gyda chysondeb diarebol. Derbyniodd yn helaeth iawn o ysbryd y diwygiad crefyddol yn 1859-60, ac felly cafodd ein cyfaill E. W. Jones fagwraeth a meithriniad ar aelwyd grefyddol gynes iawn, yr hyn oedd yn rhoddi cyfrif am y gwresawgrwydd ysbryd oedd yn ei feddianu yntau ar hyd ei oes, yn neillduol wrth anerch gorsedd gras.Yr oedd yn y teulu amryw feibion ac un neu ddwy o ferched. Un o'r rhai hynaf o honynt oedd John Williams, Tan y Dduallt, hen aelod yn y Tabernacl. Un arall yw Evan Jones, Ffestiniog, yr unig un sydd yn fyw o'r teulu.
Tua'r flwyddyn 1852 ymbriododd E. W. Jones â merch ieuanc dra rhinweddol o Bettwsycoed, sef Margaret, merch Harri ac Ellen Roberts, Dolau Du Waenydd. Bu hi farw ar ôl cystudd blin Ionawr 5ed, 1860, yn 33 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn Ffestiniog. Ar ei bedd y mae y penill canlynol o waith Bryfdir:
Wraig dyner, cof am dani
A erys fyth yn wyrdd;
Mae amser wedi methu
Ei ladd mewn stormydd fyrdd;
Rhed ebrwydd ddagrau dibrin
O hiraeth dros ein gwedd
Yn eithaf y Gorllewin
Wrth gofio am ei bedd.
Mae yn ein meddiant ddarlun (oil painting) o'r hen dŷ, Dolau Dy Waenydd, o waith yr arlunydd medrus, y Parch. John Owen, Bettwsycoed, wedi ei weithio yn 1885 tra yr oeddym ar ymweliad a'r lle. Mae ei arddull yn nodedig o Gymreig a diaddurn yr olwg, wedi ei wneyd gan ryw saer cartref, a'i doi a cheryg sydd yn eu golwg a'u ffurf yn gyn-hanesiol i'r fasnach lechi, fel y maent yn cael eu gwneyd yn awr. Ar y grib a'r ymylon y mae tywyrch wedi eu gosod i'w amddiffyn rhag y gwynt a'r ystormydd, a'r rhai hyny yn llawn tyfiant - rhedyn man a llysiau pen tai yn eu llawn flodau. Nid llawer o'r cyfryw aneddau dedwydd sydd i"w cael yn Nghymru erbyn hyn.
Cafodd E. W. Jones lawer o bleser hiraethus yn edrych dros y darlun, ac yn nodi manau o'i gwmpas ac ynddo lle y treuliodd oriau yn ei rag-gyfeillach a'i hoff Fargaret, yr hon a brofodd ei hun yn ymgeledd dra chymwys iddo, er na chafodd ond oes fer. Ganwyd iddynt dri o blant, sef Mrs. W. W. Owen a Henry R. Jones, Stamford, Conneticut, a Wm. E. Jones, 169 Howard Avenue, Utica, New York.
Yn 1871 ymfudodd Mr. Jones i America, a sefydlodd yn Swydd Oneida. Ail briododd â Jane Evans, yr hon hefyd a fu yn dyner a gofalus o hono, ac sydd wedi ei gadael yn weddw ac oedranus mewn galar ar ei ôl. Bu am flynyddau yn gofalu am yr hen gapel ar Seneca Street, a'r capel newydd, Moriah, Utica. Wedi hyny symudodd i New Hartford i fyw, a dewiswyd ef yn ddiacon yn yr eglwys hono, lle y parhaodd yn aelod a swyddog hyd ei farwolaeth.
Yr oedd o herwydd gwaeledd iechyd wedi symud at ei unig ferch i Stamford, lle y bu farw. Yr oedd mewn hiraeth parhaus am y moddion Cymreig yn New Hartford, a dymunai yn fawr gael dyfod yn ôl. Ond ewyllys ei Dad nefol oedd ei gymeryd ato ei hun i'r trigfanau fry. Dyoddefodd faith gystudd oddiwrth ddiffyg anadl yn dawel ac ymroddgar i ewyllys Duw.
Bu farw Mehefin 16eg, 1900, yn 72 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent brydferth Cold Springs, Darien, Conneticut. Trodd y Cymry allan yn gyffredinol i dalu iddo y parch dyledus. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. Herbert Brown (A.), yr hwn a wnaeth sylwadau tlysion iawn am ei ffydd gref a'i oddefgarwch mewn cystudd mor drwm. Yr oedd yn gymeriad didwyll ac uniawn, a thra dinìwed. Yr oedd ganddo ddawn gweddi neillduol iawn, ei deimladau yn ddrylliog a thoddedig. a'i afael yn addewidion Duw yn ffyddiog a gafaelgar.
Bydd yn chwith iawn genym golli y cymeriadau hyn o'n heglwysi. Mae eu nifer yn myned yn llai bob blwyddyn. O na chaem ddiwygiad eto i greu gweddiwyr yn eglwys Dduw.
W. Cynwal Jones.