MRS. ELINOR JONES, MIDDLE GRANVILLE,WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Middle Granville, Mai 1af, 1900 - Mae y ddiweddar Mrs. Elinor Jones yn deilwng iawn o goffadwriaeth.

Ganwyd a magwyd hi yn Bryn Derwen, ger Bethesda, Arfon. Enwau ei rhieni ydoedd John ac Elinor Jones, teulu parchus a chrefyddol iawn, a chafodd hithau y fraint o'i dwyn i fyny felly o'i mebyd gyda'r M. C. yn Jerusalem. Wedi iddi dyfu i fyny ymbriododd gyda Thomas Davies, gwr o'r Ceiniogau Mawr, Sir Ddinbych. Ar ol byw gyda'i rhieni am dymor byr, symdasant i'r America, gan ymsefydlu yn West Bangor, Pennsylvania, a hyny tuag 48 o flynyddau yn ol. Wedi byw yno amryw flynyddau daeth y rhyfel cartrefol i'w hamgylchynu, a symudasant hwythau oddiyno i Middle Granville, New York.

Ganwyd iddynt naw o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw, ac oll yn nghladdedigaeth eu mam. Bu ei phriod farw tua 30 o flynyddau yn ol, yn lled sydyn, gan ei gadael hi yn weddw a'r plant yn amddifaid er colled drom iddynt, canys yr oedd yn briod; a thad gofalus a thyner iawn. Yn mhen rhai blynyddau priododd eil-waith gyda Robert Jones a ddaethai yma o Lanberis, a symudasant i Dalaeth Nevada.

Cymerodd, y crydtcymalau hi yn dost, a daeth hi yma cyn pen blwyddyn at ei merch, Ellen Humphreys, gyda'r hon y trigodd weddill ei hoes, yn bur analluog, ac yn goddef llawer o boenau gan y crydcymalau am fwy nag 20 mlynedd, ond yn cael pob cynorthwy angenrheidiol gan ei merch Ellen a'i phriod a'i phlant, a hyny yn dra ewyllysgar.

Yn ystod y pum mlynedd diweddaf nis gallasai symud o'i chadair na bwyta nac yfed heb gael ei chynorthwyo. Yr oedd ei hanwyldeb wedi anffurfio ei thraed a'i dwylaw nes ei gwneyd yn hollol analluog i helpu ei hun. Ond rhyw wythnos o gystudd caled a gafodd hi yn y diwedd, cyn cael ei gollwng o'i charchar caled i dragwyddol ryddid a mwynhad o esmwythdra a thangnefedd di draw - yn ol barn a theimlad pawb o'i chydnabod.

Yr oedd hi yn hynod am ei ffyddlondeb gyda chrefydd o ddechreu ei hoes hyd y diwedd, yn dylyn moddion gras mor ffyddlon wrth ei baglau fel yr oedd hi yn wrthrych syndod i bawb am ei ffyddlondeb gydag achos ei Gwaredwr mawr. Yr oedd yn wraig brofiadol iawn drwy ei hir ofidiau, yn ymostwng yn dawel i ewyllys ei thad Nefol, gan fynegu mai uniawn ydyw ef.

Yr oedd hefyd yn cael ei chyfrif yn wraig oleu a deallus iawn yn yr Ysgrythyrau uwchlaw y cyffredin. Ond daeth y diwedd tuag 8 o'r gloch nos Sabboth, Ebrill 22ain, er galar i'w theulu a chwithdod i'r holl gymydogaeth, ar ol sant mor amlwg a dysglaer ei chymeriad.

Dydd Mercher y 25ain, claddwyd hi yn arrhydeddus iawn gan dyrfa fawr, yn 72 mlwydid oed.

Gweinyddwyd gan y Parchn. John Williams, Granville, J. W. Morris, South Poultney, a'r Parch. Robert Williams, Plymouth, Pennsylvania, yn y capel ac wrth lan y bedd.
G. R. DAVIES.

Y Drych Mai 3ydd 1900.