MRS. MARGARET JONES. LONG CREEK IOWA.

Long Creek, Iowa, Mawrth 9fed, 1900, yn nhy ei merch, Mrs. D. G. Lewis, bu farw yr hen fam oedranus, Mrs. Elizabeth Joues. Pe wedi cael byw hyd ddydd ei haugladd buasai yn 90 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn agos i'r Bala Mawrth, 1810.

Yn 1832, ymunodd mewn glân briodas gyda Mr. David M. Jones. Wedi sefydlu am dymor yn Liverpool symudasant i America, ac wedi aros am amser byr yn New York aethant i sefydlu yn agos i Cincinnati, Ohio. Yn 1855 daethant i Iowa a phrynasant fferm yn y lle hwn.

Ganwyd iddynt chwech o blant, tri o ba rai sydd yn fyw — Robert T. Jones, Cotter, yr hwn sydd yn dal meddiant o'r fferm; Mrs. Elizabeih Evans, Utica, Mo., a Mrs. Alice Lewis, o'r lle hwn. Bu farw David Albert pan yn saith mlwydd oed. Ymunodd William a'r fyddin yn y rhyfel cartrefol, a lladdwyd yn Medi, 1864. Cafodd Mrs. Catharine Davies ei lladd ar y reilffordd dydd Diolchgarwch, 1898.

Collodd Mrs. Jones ei phriod yn 1863, felly cyfarfyddodd yn ystod ei bywyd a llawer o dywydd garw a chwerwder ysbryd. Yr oedd yn feddianol ar deithi a diwylliad meddwl neillduol, a chafodd addysg o radd uchel. Yr oedd o gymeriad crefyddol da, yn hynod onest a didderbynwyneb gyda phawb. Yn ei dyddiau diweddaf yr oedd ei meddwl i raddau wedi gwanychu, dyddiau blin a baich henaint yn drwm ac anhawdd ei ddwyn, fel yr oedd ei hymddatodiad yn rhyddid ac elw iddi.

Gadawodd ar ei hol fab a dwy ferch, 10 o wyrion ac wyresau, a 14 o orwyrion a gorwyresau. Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yu mynwent yr ardal a chafodd gladdedigaeth barchus. Cafwyd gwasanaeth yn yr addoldy lle y bu yn aelod am 44 o flynyddau, a gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch J. T. Morris (T. C).

Heddwch i'w llwch.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1900.