MRS. ELLEN JONES. WANAMAKER.

Ionawr 30ain, 1900, yn Wanamaker, 18 milldir o Slatington, yn dra sydyn, Ellen, priod Thomas Jones (Twm Bwlch), yn 47 mlwydd oed.

Genedigol oedd o Clwtybont, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Gadawodd i alaru ar ei hol, briod, dau fab ac un ferch - y mab hynaf yng Nghymru, yr ail yn Philadelphia, Jennie oedd yn Reading, Pennsylvania, ond yr hon a symudodd adref i edrych am dy ei thad-yng-nghyfraith.

Y Drych Mawrth 8fed 1900.