MR. EVAN D. JONES. MARCY, NEW YORK.
Dydd Mercher, Tachwedd 21ain, 1900 bu Evan D. Jones, Marcy, farw ar ol salwch o bum wythnos.Ganwyd ef yn Dolgellau, Gogledd Cymru, Mai 1af, 1823.
Gorphenaf 1af, 1850, ymbriododd a Miss Ellen Williams, ac yn mhen blwyddyn ar ol hyny ymfudasant i'r wlad hon ar y llong "Merrick."
Wedi gweithio yn New York wrth ei grefft o saer am tua mis, daeth Mr. Jones yn mlaen i Marcy, lle yr oedd chwaer iddo yn byw ar y Fox Road. Am dymor bu yn gweithio ar reilffordd y Black River, ac ar ol ei gorpheniad rhentiodd fferm ar y Fox Road, lle yr arosodd am ddwy flynedd. Oddiyno aeth i Stittville, ac wedi bod dair blynedd ar fferm Carpenter, prynodd fferm iddo ei hun. a threuliodd y gweddill o'i oes yno.
Yr oedd yn aelod o Bethania, yn un o'i blaenoriaid a'i sefydlwyr. Gwerinwr oedd fel gwladyddwr, ond ni cheisiodd swydd erioed. Gorphenaf 3ydd, 1900, dathlodd Mr. a Mrs. Jones eu priodas euraidd, yn yr hen gartref, ac yr oedd y plant yno. sef a ganlyn: Edward, Clinton; Robert, Marcy; William R.. Spring Prairie, Wisconsin; Mrs. J. W. Potter, Marcy; Mrs. George E. Thomas, Whitesboro; a Misses Anna, Laura Jane a Martha.
Yr oedd yno, hefyd, tua hannner cant o wahoddedigion. Er nad Mr. Jones oedd yn flaenllaw mewn ystyr gyhoeddus, eto yr oedd yn ddyn rhagorol a dinesydd gwerthfawr; yn weithgar, diwyd a darbodus, ac yn ymddiriedol yn ei ymdrafodaeth.
Claddwyd ef prydnawn dydd Sadwrn, yn Carr's Cemetery, y Parchn. R. Gwesyn Jones a S. D. Douglass yn gweinyddu yn y ty a'r capel.