MR. GRIFFITH P. JONES. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Ebrill 14eg, 1900, yn Cambria, Wisconsin, Griffith P. Jones.Ganwyd ef yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1832. Cafodd ei fagu mewn tyddyn o'r enw Ty'n rhos, yn agos i Talybont, ger Conwy.
Wedi iddo dyfu i fyny treuliodd amryw flynyddoedd yn ardal Ardda ger Trefriw, gan weithio yma a thraw gyda'r amaethwyr yn y cylchoedd hyny.
Yn 1861 daeth i America, ac aeth mor bell a Cambria, Wisconsin, lle yn mhen dwy flynedd yr ymbriododd a Mary, merch William ac Elizabeth Roberts, Pylltu, ger Talybont.
Yn 1892 ymunodd a chrefydd, ac ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn Randolph. Wisconsin, gan barhau yn aelod ffyddlawn hyd y diwedd.
Cafodd angladd anrhydeddus, er fod yr hin yn hynod o anffafriol daeth lluaws o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf iddo.
Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan yr ysrgrifenydid. Canwyd amryw ddarnau tarawiadol gan gor yr Annibynwyr o Randolph, Wisconsin. Nawdd y nef fyddo dros y weddw a'r plant sydd wedi eu gadael yn amddifaid.
J. Owen Parry.