MR. GRIFFITH G. JONES. FAIR HAVEN, VERMONT.
Fair Haven, Vermont, Chwefror 5ed.Nid wyf yn cofio i gynifer o farwolaethau gymeryd lle mor agos i'w gilydd erioed o'r blaen yn hanes Cymry y lle hwn. Gadawodd Griffith Jones, "Cae Howel," yr hwn gymerwyd yn sal yn sydyn ac yn galed iawn, yn gymaint felly fel y bu gorfod iddo gefnu ar y byd hwn a'i bethau, a gwynebu byd arall yn mhen rhyw ddeg diwrnod.
Claddwyd ef yn barchus iawn y dydd Sul canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. W. Williams, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E. P. Thomas. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn nghapel yr Annibynwyr, lle yr oedd yr ymadawedig yn aelodi er's llawer o flynyddoedd.
Yr oedd Griffith yn 54 mlwydd oed pan y bu farw, a gadawodd i alaru ar ei ol wraig, a mab a merch — y mab John yn New York, a Jennie gartref gyda'i mam. Y mae Mrs. Jones yn ferch i'r diweddar Richard Pace, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. Y mae yn golled fawr i'r teulu ar ol y priod a'r tad, ffyddlon hwn, oblegid yr oedd bob amser yn hynod garedig a darbodus.
Daeth i'r wlad hon o Cae Howel, Llanddeiniolen, Gogledd Cymru, 35 mlynedd yn ol a Fair Haven oedd ei gartref braidd yr holl amser. Yn mhen ychydig flynyddau wedi dod yma, aeth i'r stad, briodasol gydag Ann Pace, y rhai yn ol pob arwyddion a gawsamt lawer iawn o gysur yn eu bywyd priodasol.