MR. HUGH LLOYD JONES. DENVER, COLORADO.
Rhagfyr 21ain, 1900, yn anedd-dy Mr. I. D. Jones, Denver, Colorado, bu farw Hugh Lloyd Jones, yn 31 mlwydd oed, wedi bod yn dyoddef am dros dair blynedd oddiwrth y darfodedigaeth.Mab ieuengaf ydoedd i William ac Ellen Jones, gynt o Benybryn, Llanwnda, ond yn awr Brynentyn, Rhostryfan, Cymru, a bu yn aros am rai blynyddoedd yn Cleveland, Ohio, ar ôl ei ddyfodiad i'r wìad hon.
Daeth i Denver tua dwy flynedd a haner yn ôl, ac am rai misoedd bu yn cryfhau yn gyflym, gan enill pwysau a nerth, ond yn y gwanwyn diweddaf, aeth i Almira, Washington, i ymweled a'i frawd William Lloyd Jones, a bu y cyfnewidiad yn yr hinsawdd yn niweidiol iddo, a gwanhaodd lawer cyn dychwelyd yn ôl yn yr hydref.
Wedi dyfod yn ôl i'r ddinas hon parhaodd i wanhau yn raddol hyd y diwedd. Cafodd bob caredigrwydd a gofal a allesid roddi iddo yn ystod wythnosau olaf ei fywyd, ac yr oedd yn ei werthfawrogi yn fawr. Dywedodd wrthyf droion mor garedig yr oedd Cymry y ddinas tuag ato yn dyfod i ymweled ag ef a gweini arno.
Cafodd ddygiad i fyny yn grefyddol, ac addysg dda, ac yn ystod ei arosiad yn Denver bu yn ffyddlawn i ddylyn moddion gras gyda chysondeb, mor bell ag yr oedd yn gallu dod allan. Daeth ei gefnder, Elias Owen, Silverton, Colorado, i'r ddinas i'w weled, a chyraeddodd ei frawd o Washington ddiwrnod yn rhy ddiweddar.
Cynaliwyd gwasanaeth angladdol ar y 23ain, a rhoddwyd y corff i orphwys yn mynwent Fairmount.
J. T. Evans.