MR. HUGH JONES. BROWNVILLE, PISCATAQUIS COUNTY, MAINE.
Marwolaeth Sydyn "Hugh Ty Canol" o'r Cancer.
ODDIWRTH Y PARCH DAVID PUCH.Brownville Maine, Mai 18fed, 1900. - Dydd Llun, y 14eg cyfisol, bu farw yn sydyn Hugh Jones, "Hugh Ty Canol," gynt o Ffestiniog, wedi dyoddef cryn boen gan cancer yn ei wyneb; ac wrth dy William Roberts, tra ar ei ffordd i dy Edward Hughes, lle y bwriadai aros er mantais i Mrs. Hughes gael gorphen codi y cancer, daeth angeu, a rhoddodd derfyn ar ei einioes heb fynyd o rybudd.
Bu William Roberts a'i briod yn garedig iawn.
Dydd Mawrth c!addwyd y corff a ymddangosai ychydig yn ol yn gadarn a lluiniaidd. Aed ag ef i'r Grange Hall, lle cynelir moddion crefyddol y Cymry, a daeth ein cydgenedl allan i ddangos fel y parchant y naill y llall. Caed gwasanaeth crefyddol byr, ond llawn teimlad, y Parch. David Pugh yn gweinyddu.
Credwn fod dau frawd a chwaer i'r ymadawedig yn y Talaethau.