MRS. JANET JONES. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Ebrill 14eg, 1900, yn 51 mlwydd oed, Mrs. Janet Jones, priod Isaac H. Jones, painter, Milwaukee; Wisconsin, yn y Trinity Hospital, wedi bod o dan weithred law-feddygol.

Yr oedd yn ferch i'r hen gymeriad gwreiddiol William Griffith, y gof, Talybont, Dyffryn Ardudwy, wedi hyny o Abermaw, Sir Feirionydd.

Yr oedd yn drigianydd yn Milwaukee ers 30 mlynedd. Gadawa ar ei hol briod, tri mab, ac un ferch. Y mae y mab hynaf mewn swydd gyfrifol o dan y llywodraeth yn ngwasanaeth y Bost-swyddfa yn Havana. Cuba. Y mae iddi chwaer, Mrs. R. Salisbury, yn Minneapolis, Minnesota, a chwaer arall yn rhywle yn Nebraska, a brawd ac amryw berthynasau yn Erie, Pennsylvania.

Cafodd gladdedigaeth parchus iawn, yn yr hwn y gweinyddwyd gan ein gweinidog Cymreig, y Parch. J. E. Jones, yn nghyd a'r Parchedig Judson Fittsworth, gweinidog eglwys Plymouth.

Y Drych Mai 24ain 1900.