MR. JOHN H. JONES. ASHLEY, PENNSYLVANIA.
DAMWAIN DDIFRIFOL YN ASHLEY, PENNSYLVANIA.
Dydd Llun, Gorphenaf 9fed, cymerodd damwain ddifrifol le yn Ashley, Pennsylvania, pryd y llosgwyd yn ddifrifol Hugh R. Jones, diacon gyda'r T. C., a John H. Jones, brawd-yn-nghyfraith i'r uchod. Coleddir gobaith cryf am eu hadferiad.Bu yr olaf farw mewn canlyniad Y dydd Iau canlynol, yn 38 mlwydd oed. Mab ydoedd i Hugh Jones, Garneddwen, Waenfawr, Sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad hon tuag ugain mlynedd yn ol. Bu yn nghymydogaethau Vermont, ac hefyd yn gweithio yn Avoca, Pennsylvania.
Yr oedd yn byw yn Ashley er's amryw flynyddoedd. Gadawodd i alaru ar ei ol wraig a phump o blant - Katie, Nellie, John, George a Hugh. Hefyd ei rieni yng Nghymru, a chwaer, Mrs. Bowden.
Yr oedd yn weithiwr caled, yn briod hynaws a thad caredig; yn aelod yn eglwys Gymreig Ashley, ac yn arolygwr yr ysgol Sul.
Claddwyd ef dydd Sabboth, y 15fed, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd. Gweinyddwyd yn y capel ac wrth y bedd yn Gymraeg a Saesneg gan y Parch Peter Gray Evans.