MR. JOHN PARRY JONES, PORTAGE, PRAIRIE, WISCONSIN.
JOHN PARRY JONES, PORTAGE PRAIRIE, WISCONSIN. Mawrth 16eg, 1900, bu farw John Parry Jones, o fewn dau ddiwrnod i fod yn 78 mlwydd, oed, yn ei gartref yn Cambria. Fe fu byw ar ei ffarm ar Portage Prairie am yn agos i haner can' mlynedd, ond y flwyddyn o'r blaen adeiladlodd dy yn Cambria, a symudodd iddo i fyw. Ychydig iawn o fwynhad bywyd a gafodd ar ôl symudí iddo, ond fe gafodd fan i roddi ei ben i lawr i farw.Ganwyd ef Mawrth, 1822. Mab ydoedd i Henry a Jane Jones, Plas Dulas, Penisarwaen, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Bu yn gweithio yn chwarel Llanberis am flynyddau, a byddai yn hoff o son am y chwarel. Wedi iddo briodi symudodd i'r wlad hon, ac ymsefydlasant ar y ffarm. Yr oedd yn weithgar bob amser, fe lafuriodd yn galed iawn, a daeth yn mlaen yn rhagorol. Yr oedd yn ymdrechgar hefyd i gyraedd gwybodaeth. Ei brif lyfr oedd y Beibl, ac yr oedd yn hyddysg yn ei athrawiaethau a'i hanesiaeth. Yr oedd ef yn chwilio y gair, a'r gair yn ei chwilio yntau. Yr oedd yn ei ddeall a'r pen, ac yn ei deimlo a'r galon. Yr oedd ei ddeall a'i serch wedi eu goleuo gan wirioneddau yr efengyl. Yr oedd hyny yn ei addasu i fod, yn athraw da yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn ddefnyddiol yn nghyfarfodydd yr eglwys. Fe fyddiai y to ieuanc yn ei hoffi fel athraw, ac yr oedd y rhai mewn oed yn caru ei glywed yn dweyd ei brofiad a'i helynt gyda chrefydld yn y cyfarfod eglwysig.
Hefyd, yr oedd yn arfer bod yn fanwl iawn gyda'r Sabboth, fe fyddai yn cadw y byd allan o'i ymadroddion ar ddydd yr Arglwydd, ac yn sancteiddio ei feddwl i wasanaethu Duw ar ei ddydd. Yr oedd hefyd yn ddyn plaen iawn. Yr oedd felly yn ei wisgiad. Yr oedd yn blaen yn ei fywyd, ac yn blaen yn ei eiriau a'i ymadroddion. Yr oedd yn casau balchder a hunanoldeb. Yr oedd pawb oedd yn ei adnabod yn gwybod am ei onestrwydd, ac yr ydym yn credu mai ffrwyth yn tarddu oddiar ei grefydd ydoedd. Mae crefydd yn gwneyd dynion yn onest, yn gystal ag yn foneddigaidd ac yn hawdd eu trin. Bron na ddywedasem am dano nad oedd dim twyll ynddo yn yr ystyr yma.
Bu yn briod deirgwaith. Bu farw ei wraig gyntaf yn 1857. Ganed iddo o'r briodas hono dair merch ac un mab. Y mae un o'r merched wedi marw. Yn mhen dwy flynedd priododd Margaret Evans, Radwy Ddu. Ganed iddo o'r briodas hon saith o feibion. Y mae chwech o honynt yn fyw. Yn y flwyddyn 1879 priododd gyda Catherine Williams, yr hon sydd wedi ei gadael i alaru ar ei ôl. Dymunwn nawdd ac arweiniad Duw dros ei briod, y meibion a'r merched. Dydd ei angladd yr oedd yn storm fawr. Yr oedd hyny yn peri i ni feddwl am ystormydd ei fywyd. Claddwyd ef yn mynwent Portage Prairie. Gweinyddwyd yn y tŷ, yn y capel ac wrth y bedd gan y Parchn. W. W. Davies, Ed. Morgan (A.), a J. O. Parry.