MR. JOHN T. JONES. GRANVILLE, NEW YORK.
Eiddo John T. Jones ar ol Cystudd Poenus.
Granville, New York, Ebrill 9fed 1900.Mae genym y gorchwyl annymunol a phruddaidd yr wythnos hon o gyfnodi marwolaethau disyfyd cyfeillion a fawr hoffid gan bron bawb yn ein pentref, ar ol y rhai yn sicr y teimlir colled gan gymdiethas mewn llawer cylch. Y cyntaf y cawn sylwi arno ydyw y cyfaill anwyl John T. Jones, yr hwn a hunodd yn yr angeu Mawrth 24ain, ar ol dyoddef cystudd trwm am yn agos i dair wythnos. Yr oedd y poenau arteithiol a ddyoddefodd yn ystod yr amser hwn yn gyfryw a'i gwnai yn hollol anymwybodol o bob peth o'i gwmpas, ac nis gallesid rhoddi dim iddo i'w fwyta a'i yfed am ddyddiau lawer cyn y diwedd.
Genedigol ydoedd o Sir Gaernarfon, a daeth i'r wlad hon 19 mlynedd yn ol, y rhan fwyaf o ba rai a dreuliodld yma.
Ei oedran ydoedd 35 mlwydd. Yr oedd yn briod ddwywaith; y tro cyntaf gyda Miss Winifred Roberts, yr hon a fu farw oddeutu wyth mlynedd yn ol. Tair blynedd yn ol priododd drachefn gyda Miss Elizabeth Parry, yr hon, yn nghyd a mab bychan, sydd, wedi eu gadael i alaru ei golled. Gadawa hefyd ddwy chwaer, Mrs. John Cunningham, Hydeville. Vermont, a Mrs. John Morris, Slatington, Pennsylvania, a brawd, Thomas Jones.
Cafodd angladd lluosog y dydd Llun dylynol o gapel Jerusalem (A), lle yr oedtd yn aelod, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Williams a Rowe o'r lle hwn, a'r Parch. J. W. Morris, South Poultney, a D. Edwards, Lake Crystal, yn gwasanaethu.
Daearwyd ei weddillion yn Middle Granville.