Y DIWEDDAR JOHN T. JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Bangor, Pennsylvania, Mehefin 20fed, 1900.Ganwyd ein gwrthrych yn Tregarth, Gogledd Cymru, ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol.
Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni pan yn blentyn ieuanc iawn, a chyn ei fod yn agos ugain oed, arweiniwyd ef yn ol i hen ardal ei enedigaeth drachefn. Ond wedi aros yno am rai blynyddoedd, gwnaeth ei feddwl i fyny i ddychwelyd ychydig llai nag ugain mlynedd yn ol.
Yn fuan, ymbriododd gydag Alice, merch i Lewis Price, yr hwn sydd flaenor defnyddiol yn eglwys yr M. E. Cymreig. Bu eu bywyd priodasol yn un hapus ar ei hyd. Ganwyd iddynt naw o blant, chwech o'r rhai sydd yn fyw. Y mae Lizzie, y ferch hynaf, 13eg oed, yn dringo grisiau gwybodaeth yn hynod o gyflym, ac os caiff fywyd ac iechyd daw yn ysgoleiges ac yn athrawes o nod a dylanwad.
Cymerwyd Mr. Jones yn wael iawn gan y carbwncl yn mis Awst 1899, ac yn Chwefror diweddaf bu farw ei unig chwaer, priod David W. Williams, yr hyn a effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y dywedodd y byddai iddo yntau ei dylyn yn fuan, yr hyn hefyd a wnaeth mewn llai na thri mis o amser. Ar ol dechreu codi allan a myned o gwmpas ychydig, perswadiwyd ef gan gyfeillion iddo yn Brooklyn i newid awyr a myned atynt hwy i aros ychydig. Aeth yno ddydd Mawrth, Mai y laf, a chyraeddodd breswylfod ei gyfaill John Hughes yn ddiogel, a bwriadai fwynhau croesaw cynes y teulu am rai dyddiau. Ond bore Iau dylynol cafwyd ef yn ei wely wedi marw o dan ddylanwad nwy (gae) oedd yn gollwng yn yr ystafell oblegid iddo trwy ryw amryfusedd ei adael felly cyn myned i gysgu.
Yr oedd ei gael ef felly wedi marw yn ergyd poenus i'w gyfeillion caredig, ond yr oedd clywed y newydd a derbyn ei gorff difywyd yn fwy o archoll o lawer i'w weddw a'i blant bach amddifaid. Aeth oddicartref yn siriol a llon i chwilio am iechyd, ond dygwyd ef adref yn barod i'r bedd. O! dywyll drefn, onide?
Claddwyd ef yn mynwent gyhoeddus ei dref fabwysiedig yn ngwydd torf luosog o alarwyr a chyfeillion. Gwasanaethwyd gan y Parchn. H. P. Morgan, Hugh Hughes (M. C.), Ivor Thomas (A.), a G. W. Dungan (M. E.). Gwnaed hyn, a gadawyd ei weddillion marwol yn ngwely oer y pridd dydd Sadwrn, Mai y 5ed.
Yr oedd John T. Jones yn un o sefydlwyr yr achos Methodistaidd Esgobol Cymreig yn Bangor, a bu yn aelod ffyddlon ac yn swyddog selog hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn ddyn pwyllog, call a boneddigaidd bob amser. Meddai ar wybodaeth eang mewn gwahanol gyfeiriadau. Nid oedd yn llawer o siaradwr, ond yn unig pan fyddai gwir angen am hyny. Tawel a dystaw ydoedd ar faterion dibwys, ond gyda phethau pwysig gallasai lefaru i bwrpas, ac yr oedd ei farn yn gynorthwy nid bycban mewn llawer o gyfarfodydd.
Safai yn barchus yn mhlith dinasyddion y dref, ac fel prawf o hyny ni raid i ni ond dweyd iddo yn Chwefror 1899 gael ei ethol yn anrhydeddus yn aelod o'r Bwrdd Ysgol am gyfnod o dair blynedd, a phe yn fyw ac iach profasai ei hunan yn aelod teilwng o'r anrhydedd osodwyd arno. Mae ei le yn wag yn y teulu, yr eglwys, a'r dref, a theimlir colled cyffredinol ar ei ol.
Daeth torf barchus ynghyd nos Sul, Mai y 13eg i'r capel M. E. Cymreig i wrandaw ar ysgrifenydd hyn o linellau yn traddodi pregeth angladdol, neu yn hytrach goffadwriaethol i'r ymadawedig oddiar Job xxx: 23 a'r 26 o adnodau. Duw yn ei ragluniaeth a'i ras a fyddo yn nawdd ac yn nerth i'w weddw anwyl a'i chwech plentyn amddifaid.
GAN Y PARCH. H P. MORGANS.