MRS. KATE PARRY JONES. FAIR HAVEN, VERMONT.

Fair Haven, Vermont, Hydref 25ain 1900.
Ar yr 17eg cyfisol, ar ol blin gystudd, bu farw Mrs. John H. Jones yn yr oedran cynarol o 25 mlwydd.

Tua blwyddyn yn ol cymerwyd hi yn glaf dan y pneumonia, yr hwn yn araf a ymddadblygodd i'r darfodedigaeth.

Merch ydoedd i William ac Alice Parry o Lanberis, ond yn ddiweddarach o Ffestiniog, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon tua phum mlynedd yn ol, a bu yn aelod gweithgar a ffyddlawn tra y gallodd; gyda'r T. C.

Dydd Sadwrn hebryngwyd ei ran farwol gan dyrfa barchus i dy ei hir gartref.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. D. L. Williams (A.), a John W. Morris (T. C.), Poultney, yn effeithiol. Anfonwyd wreath hardd gan ei dosbarth yn yr Ysgol Sul: ac arwisgwyd yr addoldy ag arwyddion galar gan y Gymdeithas Ymdrechol, o'r hon yr ydoedd yn aelod ymroddgar.

Gedy briod a phlentyn i alaru eu colled ar ei hol.

Y Drych ~ Tachwedd 1af, 1900.