MRS. MARGARET JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

MARWOLAETH MRS. JOB DAVIES

Mawrth 9fed. — Dymunwm arnooh roddi hyn o hanes ein hen gymydoges sydd newydd ein gadael am y wlad sydd well, sef Mrs. Margaret Davies, anwyl briod Job Davies, un o breswylwyr Cymreig cyntaf Middle Granville.

Merch ydoedd i John Jones, Brynhafod-y-wern, Bethesda, Arfon. Daeth yma o Gymru tua chwech a deugain o flynyddau yn ol, ac yn fuan priododd gyda William Price o Wern y Clochydd,, Llanllechid. Bu iddynt dri o blant y rhai sydd wedi marw. Bu eu tad farw tua deugain mlynedd yn ol, a chladdwyd ef yn Fair Haven, Vermont.

Yn mhen amser ail briododd gyda Job Davies, gynt o Ffestiniog, a buont byw yn gysurus am dymor maith, a magu tri o feibion ac un ferch, oll wedi priodi ac yn byw yma, ond William Davies sydd yn byw yn New York.

Am 9 o'r gloch nos Lun, Chwefror 26ain, pan yn gorwedd yn ei gwely, cafodd, ei tharo gan ergyd o'r parlys yn drwm iawn, fel nas gallodd adnabod neb na gwneyd sylw o ddim, a pharhaodd felly hyd ddydd Iau, Mawrth 1af, pryd y gadawodd ei daearol dy o'r babell hon am y trigfanau nefol, pan yn agos i 75 mlwydd oed.

Dydd Llun canlynol daeth tyrfa fawr yn nghyd o'r ardaloedd cymydogaethol i'w chladdedigaeth. Hebryngwyd ei gweddillion i'r addoldy, pryd y gweinyddwyd gan y brodyr William Nathaniel a John Williams, Granville, yna aed tua'r gladdfa, y Parch. John Williams, Granville, yn gweinyddu wrth lan y bedd.

Yr oedd y chwaer wedi cael dygiad i fyny yn grefyddol o'i mebyd, gan ei rhieni crefyddol, a pharhaodd felly ar hyd ei hoes, yn gwasanaethu yr Iesu yn ffyddlon, ac yn dylyn moddion gras yn gyson iawn hyd y diwedd. Diameu genym ei bod wedi cael ei dyrchafu i gymanfa y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd, "Oblegid! nid yw Duw yn anghyflawn fel yr anghofio eich gwaith a'ch llafurus gariad a ddangosasoch tuag at ei enw ef."

Yr oedd yn wraig rinweddol, yn gymydoges garedig, a theimlir colled ar ei hol yn yr ardal a'r eglwys.
Griffith R. Davies.

Y Drych Mawrth 15fed 1900.