MRS. MARY JONES. ARVONIA, OSAGE COUNTY, KANSAS.

Hydref 19, 1900, yn Arvonia, Kansass, yn 54 oed, Mrs. Mary Jones, priod. T. R. Jones. Ei rhieni ydoedd Henry a Margaret Jones, Llanengan, ger Pwllheii, Gogledd Cymru, y rhai fuont farw pan oedd hi yn dra ieuanc. Cafodd ddygiad da i lyny yn wladol a chrefyddol gan ei nain a'r teulu, un o deuluoedd parchusaf yr ardal, set teulu y Lamb, fel y gelwid hwynt.

Daeth i'r wlad hon yn 1873 gyda ei modryb, Mrs. J. Gwyndaf Jones, i Pittsburg, Pennsylvania.

Yn Tachwedd 2ail, 1874, ymbriodoad a T. R. Jones yn Osage City, Kansas, a chyfrifwn yr uniad yn un ffodus iawn, gan na wyddom am nemawr ddau dreuliodd eu bywyd priodasol am ysbaid o 26 o flynyddoedd yn fwy dedwydd na hwynt; ac wrth feddwl hyn nid rhyfedd genym at alar a mawr hiraeth ei phriod a'i dau fab, Evan a John, a'r ferch Maggie ar ei hol.

Gwnaeth hi ei rhan yn dda mewn undeb a'r teulu er cael eu hunain mewn sefyllfa lawn a chysurus. Yr oedd ganddi hi hefyd "y rhan dda" i fyned o'r bywyd yma. Dywedai ychydig cyn marw, "Wel, mae yn rhaid i mi eich gadael. Byddwch yn blant da." Coffa amryw emynau cyn hyny, megys, "Iesu, Iesu, yr wyt yn ddigon," ac "Yn y dyfroead mawr a'r tonau," ac amryw ranau o'r Ysgrythyr, megys "Da yw i mi fy nghystuddio." Edrychai ar angen heb fraw. "Ni frysia yr hwn a gredo."

Dywedai wrth Maggie am y lle y dymunasai gael ei chladdu, pryd y torodd y ferch druan i wylo. "Paid a wylo," meddai, "yr wyf yn barod." Cafodd ras i fyw a gras i farw. Y rhai a'i hadwaenai a ddywedant ei bod yn ofni yr Arglwydd o'i mebyd.

Aelod ydoedd yn Eglwyd Gynulleidfaol Arvonia, Kansas; a dywedai ei gweinidol, y Parch D. Todd Jones, ei bod yn Gristion gloew, a'i bod yn hyddysg iawn yn ei Beibl, a bod yn anhwadd dweyd yn rhy dda amdani. Wrth goffa am ei hymadawiad pryd yr oedd dau feddyg gyda hwy yn y ty, dywedai mewn llythyr: "O it was hard to give her up, but God knows best, it is a great consolation to us in our sorrows to think that she was ready; our only solace now is to live so that we can meet her on the other shore."

Cafodd angladd anrhydeddus. Gweinyddwyd gan y Parchn. D. Todd Jones. W. Mason a J. T. Evans.

Dywedwn wrth y teulu, cyfrifwch gylch eang o gyfeillion "yn wylo gyda chwi yn wylo." Nawdd y nef fyddo drosoch oll.
John Jones, Emporia.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed, 1900.