MISS MARY E. JONES. UTICA, NEW YORK.
"Coffawdwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig," a hawdd y gallwn gymwyso yr ymadrodd yna at y chwaer Mary E. Jones, yr hon a hunodd yn yr Iesu Awst 27ain, 1900, pan yn 58 mlwydd oed.Gair da oedd gan bawb i'r chwaer pan yn byw ac yn myned a dyfod yn ein plith. Yr oedd ei bywyd gwastad yn cario dylanwad da ar y rhai oedd yn ei hadwaen oreu. Ymdrechodd i wneyd llwybr uniawn i'w thraed a llwyddodd i hyny yn nghymorth gras. Cafodd ei magu yn grefyddol gan rieni duwiol, a chadwodd hithau ar y ffordd dda hyd ddiwedd ei thaith. Bu yn aelod ffyddlon yn eglwys y T. C. yn Utica aml flynyddau meithion.
Yr oedd yn hoffi "Ty yr Arglwydd," yn hoffi pobl yr Arglwydd. Yr oedd hi yn hoff o drefniadau y tŷ, a phob amser yn barod ac ewyllysgar ì gyfranu at angenrheidiau y tŷ. Nid oes dadl yn meddwl neb nad ydyw hi heddyw wedi cyraedd yn ddiogel i dy ei Thad, ac wedi uno a'r dyrfa sydd yn "moli Duw a'r Oen."
Yr oedd y chwaer Mary E. Jones wedì bod mewn gwasanaeth yn yr un teulu am dros 30 mlynedd, ac ni fuasai yn symud i un man arall, ac ni fuasent hwythau chwaith yn gadael iddi symud gan y fath barch oedd ganddynt iddi hi ac i'w gwasanaeth gonest am flynyddoedd lawer. Nid oedd ein chwaer yn un oedd yn arfer dweyd llawer mewn geiriau, lled ddystaw fyddai yn gyffredin. Yr oedd ei siarad hi mewn gweithredoedd. Bywyd cyson sydd yn siarad gyda dylanwad.
Ganwyd Mary Jones yn Maentwrog, Gogledd Cymru. Ei rhieni oeddynt Hugh ac Elizabeth Jones, Marcy, neu South Trenton, New York, pa rai oeddynt yn aelodau ffyddlon gyda'r T. C.
Daeth ein chwaer i'r wlad hon gyda'i rhieni pan yn ieuanc iawn. Gadawodd i alaru ar ei hol dair o chwiorydd, sef Mrs. Elizabeth Griffiths a Hannah Jones, Utica, pa rai a gawsant y fraint o ofalu am eu hanwyl chwaer yn ei chystudd olaf. Gwnaethant hyny gyda'r gofal mwyaf. Hefyd Mrs. Jane Thomas, Long Island City. Hefyd dri o frodyr, sef Robert E., Deerfieid; John M, St. Douls, a Richard Jones yn Pennsylvania.
Cafodd gladdedigaeth barchus o'r tŷ, 58 Howard Avenue, y Parch. R. Gwesyn Jones yn gwasanaethu yn hynod o briodol yn ôl ei arfer.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1901.
MISS MARY E. JONES. UTICA, NEW YORK.
Tua 3:30 bore Llun, Awst 27ain, 1900 yn 58 Howard Avenue, Utica, bu farw Miss Mary E. Jones, yn 58 mlwydd oed, o anhwyldeb gyddfol, yr hwn a brofodd yn drech na medirusrwydd y meddygon goreu.Ganwyd hi ger Maentwrog, o'r hwn le yr ymfudodd i America, gyda'i rhieni Hugh ac Elizabeth Jones, pan tua chwe mlwydd oed. Dygwyd' hi i fyny yn Marcy; ond daeth i Utica i wasanaethu yn dra ieuanc; ac er's bron 30 mlynedd yr oedd yn gogyddes yn nheulu John M. Crouse. Yr oedd yn foneddiges rinweddol a diabsen tu hwnt i'r cyffredin; yn fawr ei pharch gan bawb oedd yn ei hadnabod, ac yn aelod ffyddlon gyda'r T. C. o'i mebyd. Er na chlywid ei llais ond anfynych yn nghymdeithasau chwiorydd Moriah, yr oedd yn gyson a pharod yn ei gwasanaeth distaw gyda phob symudiad daionus; ac mewn llawer cylch teimlir colled am ei gwyneb siriol a'i chalon elusengar.
Priodol y cana y bardd Cynwal am dani:
Ei bywyd fel blodeuyn hardd
Ymguddiai mewn gwyleidd-dra
Yn nghysgod deilen yn yr ardd
Ac eto'n bêr arogla;
Nis gall ymguddio, gan ei sawr
Ymdaena ar yr awel;
Nes enill ar ymdoriad gwawr
Yn llwyr, edmygedd angel!
Ha wasanaethferch! ar dy arch
Enillaist ti edmygedd
Yn llwythog, ddiameuol barch
Am adeg ar hugain mlynedd.
Siomedig ffafr, a thegwch pryd,
Ond benyw'n ofni'r Arglwydd,
Hi a gaiff glod - rhodd oreu'r byd -
A gwynfyd yn dragywydd.
Gadawodd ar ei hol dri brawd, Robert E, yn Deerfield; John yn St. Louis, Missouri, a Richard yn Pennsylvania; hefyd, tair chwaer, Mrs. Elizabeth Griffiths a Miss Hannah Jones o Utica, a Mrs. Jane Thomas o Long Island City.
Cynelir gwasanaeth angladdol iddi am 2 o'r gloch yfory (dydd Mercher) yn ei hen gartref ar Howard Avenue; a chymerir ei chorff i fynwent Maynard, lle gorwedd gweddillion ei thad a'i mam. Gwasanaethir gan y Parch. Dr. Gwesyn Jones.