MRS. MARY HUMPHREY JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Dydd Mercher, Tachwedd 7fed, 1900, yn ei chartref, 75 Elm Street, Utica, bu farw Mrs. Mary Humphrey Jones, priod Thomas H. Jones, saer coed.

Merch ydoedd i'r diweddar Barch. Humphrey Humphreys a'i briod. Ganwyd hi yn Dolgellau, Mai 17eg, 1841, a daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni pan yn bum mlwydd oed, gan ymsefydlu yn South Trenton.

Wedi priodi Mr. Jones, bu yn byw am hir amser yn St. Louis, Missouri; ond yr oedd yn cartrefu yn Utica er's blynyddau. Chwaer iddi oedd y ddiweddar Mrs. John W. Jones.

Gadawodd i gyd-alaru a'i phriod, un mab, Arthur H. Jones yn St. Louis, a merch. Mrs. David Parry, Oneida Street, Utica; hefyd dau frawd, Isaac Humphrey o Richfield Springs, ac Evan Humphrey o Chicago.

Yr oedd Mrs. Jones yn ddynes a fawr berchid gan bawb; a bu yn aelod o eglwys y Coke Memorial. Cymerodd ei hangladd le ddydd Sadwrn.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed, 1900.