MR. RICHARD W. JONES. POULTNEY RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Tachwedd 30ain, 1900.Ar yr 16eg o'r mis hwn bu farw Richard W. Jones, yn 66 mlwydd oed, ar ol cystudd blin am naw mis o amser a chafodd ei gladdu am ddau o'r gloch prydnawn dydd Mawrth yr 20fed, pryd y daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd gan y tri gweinidog Cymreig. a daeth Mr. Dungan (M. E.), at y ty i ddangos ei barch i'r teulu.
Genedigol oedd yr ymadawedig o Ebenezer, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Gadawodd weddw a deg o blant i alaru eu colled, sef saith o feibion, a thair o ferched, heblaw llu mawr o wyrion. Jane, merch hynaf William Owen, Cae Phillip, plwyf Cae Athro, Sir Gaernarfon, ydyw Mrs. Jones.
Daeth Richard Jones a'r teulu i Chapmans yn 1860, a buont yno am ugain o flynyddau; symudasant oddiyno i Bangor, yn yr hwn le y maent wedi byw oddiar hyny.
Yr oedd Mr. Jones yn ddyn tawel, addfwyn a charedig iawn, ac felly yn un hawdd i'w garu, ac yn hynod barchus yn y lle gan bawb. Yr oedd yn Gymro pur, yn dderbyniwr ac yn edmygydd mawr o'r "Drych," yn ffyddlon a blaenllaw gyda'r Iforiaid. Yr oedd hefyd yn aelod blaenllaw ac yn ddiacon ffyddlon gyda'r Annibynwyr; ac yr oedd yn dwyn mawr sel dros enw yr Arglwydd Iesu ac achos crefydd. Y mae yn golled fawr i eglwys a chymydogaeth golli cymeriad fel Richard W. Jones; a bydd ei le yn wag mewn llawer cylch.
Y mae y teulu lluosog yn rhwym o deimlo chwithdod mawr ar ei ol, yr wyrion yn ogystal a'r plant, o herwydd nid yw taid mwyach i alw arno; a sicr yw y gwelir ei le yn wag yn yr eglwys, o herwydd byddai ef yno bob amser yn ei gadair, ac yn ei gornel gyda'i amen a'i wyneb siriol, a'i gyngorion buddiol. Duw pob daioni fyddo yn amddiffyn, ac yn fendith i'n hanwyl chwaer a'r teulu yn eu galar ar ol priod a thad mor dyner a darbodus.
Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.
Ifor Thomas.
Y Drych Rhagfyr 6ed 1900.
MR. RICHARD W. JONES. POULTNEY RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Richard W. Jones of South Poultney, was almost instantly killed Monday morning at thr Buckeye slate quarry, South Poultney, of which he is owner. Several men, superintended by Jones, were drilling an overhanging ledge of rock preparatory to blasting, when the rock suddenly broke off, crashing on Jones, who was sitting at the time and unable to get out of the way. The men were able to escape injury. Jones lived an hour.He is survived by a wife.
Concerning the accident the SENTINEL'S correspondent at that place writes : Our community was shocked Monday morning by hearing that Richard W. Jones of the firm Jones and Owens, manufacturers of slate, had been seriously injured while at work in the quarry pit with two other men, when a rock came down almost crushing him. Drs. Smith and Ellis were called and examined the victim, found that life was short and removed him to his home where he died shortly afterwards.
Much sympathy is expressed for his bereaved wife; also his two daughters, Anna and Lizzie, who less than two weeks ago left home for New York City where they were to remain for some time. Mr. Jones was a man whom everybody liked and was very popular among his friends, and was a kind and loving father and husband. He was a man whom the whole community will miss, especially in the church, being always faithful in attendance and a leading worker. He also leaves to mourn his loss besides his wife and saughters, one brother, John W. Jones. The funeral was held from the Welsh C. M. Church this (Thursday) afternoon.