MR. ROBERT O. JONES. SANDUSKY, NEW YORK.
It is with sadness we record the death of our beloved brother and friend Robert O. Jones, of Sandusky, New York, who departed this life on the nineteenth day of November, 1900.Mr. Jones was born near Bala, North Wales, on the 12th day of November, 1843. He was the son of John J. and Jane Jones.
When Robert was but seven years of age the family came to this country, and settled on a farm near Sandusky, and in that community Mr. Jones spent the remainder of his life.
He was truly a brother beloved, an honored citizen, and a faithful and consistent Christian, humble and unassuming in all that he did. He had been for many years one of the most devoted members of the Welsh Calvinistic Methodist Church and a most efficient teacher in its Sunday School. He had always taken a great interest in the work of the American Bible Society, and for many years continuing to the time of his death he had served as President of the local branch. He was always in sympathy with every work of reform, especially in the great cause of temperence.
Of him it may truly be said, that whatever his hand found to do for the good of his fellow-men, the honor of the Master and the Glory of his Divine Master he did with his might; and one might behold in him "an Israelite indeed in whom was no guile."
In February, 1885, he was married to Miss Sylyia Wheeler, daughter of Mr. and Mrs. William B. Wheeler of Sandusky. There were born to them four children, three of whom with Mrs. Jones are now left to mourn the loss of a most devoted husband and kind and loving father.
For more than two years before his death, Mr. Jones had suffered greatly from tubercular troubles, and all that kindly ministration, medical aid, surgical skill could do to save his life was done, but all did not avail to bring back to him his former strength. One of the trials which was very hard for him to bear in his weakened condition was the sad death of his son Morris, who after but a brief illness fell asleep in Jesus on the twenty-sixth day of February, 1900, in the tenth year of his age. From that time the sorrowing father gradually grew weaker until on the date above named he too passed to his reward, where following little Morris we believe he entered those "heavenly mansions" prepared for God's chosen ones.
The funeral service was held at the Salem Church on the 21st day of November, and the sure evidence of the esteem in which Mr. Jones was held in the community in which he had lived for half a century was seen in the vast numbers present at the church, to pay to him their last tribute of respect.
The services were in charge of Rev. Albert Evans, pastor of the Westminster Presbyterian Church of Rochester, New York, who preached a sermon from Phil. 1:21, "For to me to live is Christ and to die is gain." Revs. Williams oî Sandusky, and J. H. Wheeler of Rushford, took part in the service.
Beside to his beloved wife and three littie ones, we extend sincere sympathy to his brothers and sisters - William E. Jones of Albany, New York; John B. Jones and Mrs. Elizabeth Edwards of Sandusky, New York, and Mrs. Ann M. Jones of Delaware, New York.
A. E.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1901.
MR. ROBERT O. JONES. SANDUSKY, NEW YORK.
GAN EI FRAWD W. E..JONES
Dydd Llun, Tachwedd 19eg, 1900, bu farw y brawd anwyl a'r cymydog caredig uchod. Dyoddefodd lawer o salwch, yn enwedig yn ystod y flwyddyn diweddaf, ond yn bur dawel a dirwgnach.Ganwyd ef Tachwedd 12fed, 1843, yn Ty'n y Wern yn agos i'r Bala, Sir Feirionydd. Mab ydoedd i John J. a Jane Jones. Yr oedd ei dad yn fab i John Jones, Gwernyrewig, Hirnant, a'i fam yn ferch i William Jones, Rhiwaedog, yr hwn oedd ddiacon nodedig y T. C. yn ei ddydd.
Symudodd ei rieni i'r wlad hon pan oedd ef tua saith mlwydd oed, a daethant i gymdogaeth Sandusky, lle y cartrefodd ef hyd ei farwolaeth.
Tua 14 mlynedd yn ol ymbriododd a Sylvia, merch i Wm. B. Wheeler a'i briod o'r un ardal. Ganwyd iddynt bedwar o blant, sef Iorwerth, Morris, Olwen a David. Yn Chwefror diweddaf ar y 26ain bu farw Morris bach, un o'r bechgyn bach pertiaf yn yr holl gymydogaeth. Yr oedd hon yn ergyd drom i'w dad, yr hwn oedd yn wael iawn, newydd fod dan law a chyllell y meddyg, ac y mae yn debyg mai hon oedd y brofedigaeth lymaf a gafodd yn ystod ei oes, sef colli Morris bach.
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod yn eglwys Salem (T. C.) er yn fachgenyn, a gellir dweyd am dano ei fod yn un o'r.rhai ffyddlonaf yn mhlith y ffyddloniaid gyda'r achos yn mhob gwedd arno. Bu yn ffyddlawn a haelfrydig gyda phethau allanol yr achos, ac hefyd yn hynod ffyddlawn gyda'r moddion, nes y methodd gan afiechyd.
Yr oedd yn hynod fedrus fel arweiniwr cyfarfodydd. Medrai siarad yn ddoniol ac yn dda ar unrhyw bwnc y cymerai afael ynddo. Yr oedd yn ddirwestwr selog, a bu am flynyddau yn aelod o'r Temlwyr Da. Bu yn ffyddlawn a selog gyda'r Feibl Gymdeithas. Cafodd yr anrhydedd o fod yn llywydd lawer blwyddyn, ac efe oedd y llywydd yn awr, ond mae yn debyg mai gyda ei ddosbarth yn yr Ysgol Sabbothol yr enwogodd ei hun fwyaf. Medrai ddarllen yn gywrain a deallgar; yr oedd yn Ysgrythyrwr da, ac yn fedrus fel esboniwr, ac yn dea11 ei waith fel athraw yn neillduol o dda.
Dangosodd y plwyfolion eu meddwl mawr o hono a'u cariad tuag ato trwy ddod yn dorf i'w angladd, nes gorlenwi y capel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Albert Evans (Pres.), Rochester, New York, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Mr. Williams (M. E.), Sandusky, a James Wheeler (F. M.), Rushford.
Gadawodd i alaru ar ei ol ei briod hoff a'r tri phlentyn bach, yn nghyd a dau frawd a dwy chwaer, sef John B. Jones, Sandusky; Wm. E. Jones, Albany; Ann M. Jones, Delevan, ac Elizabeth S. Edwards, Sandusky.