ROBERT R. JONES. FAIR HAVEN, VERMONT.
Fair Haven, Vermont, Gorphennaf 7fed, 1900.Heddyw y mae genym i gofnodi marwolaeth y priod serchog, y tad tyner, a'r cyfaill dyddan Robert R. Jones. Ni bu yn glaf ond ychydig dros wythnos, ond cafodd gystudd caled ac er y gofal mwyaf tyner gan feddygon a llu o gyfeillion, bu y typhoid pneumonia yn drech na'u medr, ac ehedodd ei enaid mawreddog adref at y Gwr a garai ar y 3ydd o Orphenaf yn yr oedran cynarol o 43.
Yr oedd yr amgylchiadau yn rhai difrifol iawn, gan fod ei anwyl briod wedi ei tharaw yn glaf o'r un clefyd ychydig ddyddiau ar ei ol; a bu hithau megys yn y glorian; ond pan yn ysgrifenu da genym ddeall ei bod yn well, a bod gobaith cryf am ei hadferiad.
Un o'r cymeriadau hyny a fawr hoffid ydoedd yr ymadawedig. Mab ydoedd i Robert a Mary Jones, Penygelli, Ffestiniog, Gogledd Cymru. Dygwyd ef i fyny gyda chrefydd yn hen eglwys Anibynol Bethania.
Ymfudodd i'r wlad hon 18 mlynedd yn ol, ond er newid gwlad ni fu iddo newid ei Dduw. Dwy flynedd yn ol dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys Annibynol, yr hon swydd a wasanaethodd yn ffyddlawn ac effeithiol. Beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, gwnai ef a'i holl egni. Yr oedd rhywbeth yn ei ymddygiad yn dwyn serch pawb ddeuai i gysylltiad ag ef. Yn ystod ei yrfa yr oedd yn ymddangos yn amlwg ei fod yn ofni Duw. Yn y seiat byddai ei brofiadau yn tystio ei fod yn arfer dal cymundeb a Duw mewn dirgel fanau.
Ychydig cyn ei fyned chwareuai gwen ar ei wyneb fel pe byddai rhyw angel-gerub o wynfa gydag ef yn traethu heddwch.
"R'oedd ei feddwl coeth yn crwydro
Bryniau tragwyddoldeb pell,
Cododd Iesu gwr y lleni
Oedd yn cuddio'i gartref gwell."
Ei eiriau diweddaf oeddynt, "Diolch Iddo byth am gofio llwch y llawr."
Gorphenaf 5ed, daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i'r gladdfa. Yr ydoedd yn un o'r cynhebryngau mwyaf parchus a welwyd yn y dref, gyda'r trefniadau yn berffaith. Gorymdeithiodd Cymdeithasau y Good Fellows, y Rhydd Faswniaid a'r Iforiaid, o ba rai yr ydoedd yr ymadawedig yn aelod blaenllaw a defnyddiol, i'r addoldy Annibynol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. E. P. Thomas (T. C.), William Nathaniel, Poultney, William R. Edwards, Granville, a David L. Williams, Rome, gweinidog dyfodol yr eglwys.
Gorymdeithiwyd i'r gladdfa, y cymdeithasau dyngarol, yn nghyd a Chymdeithasau Ymdrechol y ddwy eglwys Gymreig, gyda thyrfa fawr yn dylyn. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan yr Urdd Iforaidd, yn nghanol teimladau dryllielig y dyrfa.
Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a fyddo yn nodded i'r weddw alarus a'r plant yn y dyfroedd dyfnion.
Dymunir i bapyrau Cymru godi yr hanes.
R. O. Davies.