MR. ROBERT R. JONES. WILD ROSE, WISCONSIN.

Ganwyd gwrthrych y cofiant hwn yn Bangor, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Rhagfyr, 1826.

Mab ydoedd i Richard a Catherine Jones, Cilwer. Pan yn dair blwydd oed, aeth i fyw at ei daid, o ochr ei fam, Robert Dafydd, Ty Mawr, Llangenio, Sir Fôn. Arosodd yno nes oedd yn bymtheg mlwydd oed, pryd y dychwelodd at ei dad, yr hwn erbyn hyn oedd yn byw yn Palas Bryndu, Sir Fôn.

Pan yn 18 mlwydd oed aeth i Liverpool ar brentisiaeth i ddysgu bod yn saer pren. Oddiyno aeth i Drefnant Ddu; ac yn 1852, daeth i'r wlad hon, a sefydlodd yn WauKesha, Wisconsin.

Yn 1854, ymunodd mewn priodas ag Emma Elias, o'r un ardal. Bu iddynt dri o blant, un mab a dwy ferch. Bu y ferch ieuengaf, yr hon oedd yn briod â James W. Evans o'r ardal hon, farw amryw o flynyddau o flaen ei thad. Mae y mab a'r ferch hynaf yn cydalaru a'u mam oedranus ar ei ôl.

Yn 1860, symudodd i'r ardal hon, a sefydlodd ar dyddyn sydd yn cydio a'r un y treuliodd flynyddau olaf ei oes arno. Trwy ei ddiwydrwydd a'i fedrusrwydd llwyddodd i gasglu llawer o gyfoeth, fel yr oedd ganddo ddigon iddo ef a'i briod dreulio eu hen ddyddiau uchlaw eisieu. Gadawodd ei blant hefyd mewn amgylchiadau cysurus, ac yn ei ewyllys rhoddodd chwech chant i Fwrdd Cenadol y Trefnyddion Calfinaidd.

Yr oedd Mr. Jones bob amser yn edrych yn dda, ond fel y dywedai yn fynych, nid oedd yn teimlo agos cystal ag yr edrychai. Blinid ef gryn lawer gan y crydcymalau, a rhyw ddiffyg ar y galon. Yn nechreu y flwyddyn 1899, cafodd ymosodiad anghyffredin gan yr hyn a alwai y meddygon yn "kidney and bladder trouble." Dyoddefodd boenau angerddol am wythnosau, a meddylid unwaith nad oedd yn bosibl iddo gael adferiad, ond cafodd nurse o'r fath oreu yn mherson ei unig ferch, erbyn hyn Mrs. Elias Griffiths, yr hon a adawodd ei chartref yn Omaha, Nebraska, ac a ddaeth i weini arno, ac arosodd gydag ef nes oedd wedi gwella.

Wedi i'r tywydd gynesu, daeth yn alluog i fyned oddi-amgylch, ac arolygu ei amgylchiadau, ond fel y dywedai, yr oedd yr hen babell wedi ei amharu yn fawr.

Yn y gwanwyn diweddaf cafodd ymosodiad arall gan yr un afiechyd, ond nid oedd yn ddrwg iawn ar y cychwyn, a meddylid y buasai yn dyfod drosto yn fuan; ond yn lle gwella, gwaethygodd, a bu farw yn bur annysgwyliadwy. Ar ôl myned trwy boenau enbyd, y rhai a ddyoddefodd yn ddystaw, ebedodd ei ysbryd adref mewn tawelwch ac esmwythder, bore Ebrill 25ain, 1900.

Yr oedd Mr. Jones yn ddyn galluog, yn meddu meddwl cryf a gafaelgar, sylw manwl, teimlad dwfn, dawn llithrig, a chyflawnder o iaith dda. Yr oedd yn gefnder i'r Parch. Hugh Rowlands, D. D., Lincoln, Nebraska. Yr oedd yn debyg i Dr. Rowlands mewn llawer o bethau, a phe buasai wedi cymeryd yr un cyfeiriad, a chael yr un manteision, y mae yn sicr y buasai mor enwog ag yntau.

Syniad ei daid, gyda yr hwn y treuliodd fore ei oes, oedd mai y peth mawr i blant oedd eu dysgu yn ngwirioneddau y Beibl, ac ymroddodd i ddysgu y bachgen yn egwyddorion ac athrawiaethau Gair Duw. Fel hyn daeth Mr. Jones yn ysgolor Beiblaidd rhagorol. Yr oedd llawer o hono ar ei gof, a byddai bob amser yn ei ddyfynu yn berffaith gywir.

Yr oedd yn bleser ei glywed yn dyfynu hen adnodau y Beibl. Nid yn unig yr oedd ganddo wybodaeth eang o'r athrawiaethau Beiblaidd, ond hefyd yr oedd yn ymresymwr cadarn, ac yn siaradwr cyhoeddus deheuig. Mewn cyfarfodydd i areithio ar faterion crefyddol, byddai ef y rhan fynychaf yn cymeryd rhan. Bu yn llywydd y Gymdeithas Feiblaidd a'r Gymdeithas Genadol am flynyddau. Hefyd, byddai yn llywyddu mewn cyfarfodydd neillduol yn fynych.

Yr oedd rhyw fawredd ac urddas yn nghylch ei berson yn cael ei gysylltu a gallu i weinyddu, yr hyn oedd yn ei wneyd yn llywydd rhagorol. Yr oedd yn un o gyd-drefnwyr y Gymdeithas Feiblaidd, ac yn un o ymddiriedolwyr yr eglwys pan fu farw. Ond hwyrach mai fel athraw yn yr ysgol Sabbothol yr oedd fwyaf poblogaidd wedi y cwbl. Yr oedd ei wybodaeth eang a chlir yn ei alluogi i arwain ei ddosbarth yn rhwydd. Yr oedd hefyd yn gwestiynwr medrus, yr hyn sydd; yn anhebgorol angenrheidiol i athraw da. At y pethau yma, yr oedd ganddo lawer iawn o'r gallu anweledig hwnw sydd yn enill cydymdeimlad y dosbarth, ac yn ei llenwi a dyddordeb yn y wers.

Mae yn ymddangos iddo gael ei fagu yn yr eglwys, ond ni wyddys pa bryd y daeth yn gyflawn aelod, neu yntau a adawodd yr eglwys cyn dyfod, fel y gwnai llawer o'i gyfoedion y pryd hwnw; ond yr ydym yn ei gael gyda chrefydd pan ddaeth i'r wlad hon. Y rhan fynychaf byddai i raddau yn galed arno ei hun wrth ddweyd ei brofiad. Datganai yn fynych nad oedd yn byw yn haner digon duwiol, ac nad oedd yn gwneyd fel y dylasai, nac fel y galasai. Ond fel yr oedd yn heneiddio yr oedd yn son mwy am gariad a thrugaredd Duw.

Wedi ei afiechyd y flwyddyn ddiweddaf, dywedai unwaith ei fod yn teimlo fod ei Dad yn ei geryddu, a chwanegai, "Eto ni welir un cerydd dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd, ond gwedi hyny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef." Nid oedd yn ofni, teimlai fod cariad a thrugaredd Duw yn ddigom Y tro diweddaf y buom yn siarad ag ef, yr hyn oedd ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, dywedai, "Y mae pob peth yn dda. Mae hen gyfamod rhyngom, a theimlwyf fod ei gadernid yn ddiysgog."

Ar y 30ain, ymgasglodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y rhoddwyd ei gorff i orphwys yn mynwent Caersalem. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan y Parchn. Lewis Allen, Timothy Jones, Morris Cadwaladr, a'r ysgrifenydd. Heddwch i'w lwch, a Duw yn ei drugaredd anfeidrol a ddyddano ei weddw oedranus, ei blant, a'r holl berthynasau sydd mewn galar dwfn ar ei ôl.

Daniel Thomas.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1901.