MR. WILLIAM D. JONES. UTICA, NEW YORK.
Utica, New York, Mai 14eg 1900. Dydd Mercher, y 9fed, yn ei gartref, 20 Linwood Place, bu farw William D. Jones, argraffydd, ar ol salwch o dros flwyddyn. Dyoddefai o dan gyfuniad o anhwylderau, ond achos uniongyrchol ei angeu fu dolur yr arenau.Ganwyd Mr. Jones yn Ebenezer, Swydd Gaernarfon: Gogledd Cymru, Hydref 27ain, 1837.
Ymfudodd ei rieni i'r wlad hon gyda chwech o blant yn 1848, gan ymsefydlu yn Utica, lle, yr oedd gan y fam frawd. Dechreuodd ei dad weithio wrth ei grefft fel saer; am tua blwyddyn, pan y bu farw.
Wedi bod yn yr ysgol am dymor, cyflogwyd William D. yn y Globe Mill, lle y gweithiodd tua blwyddyn. Oddiyno aeth i swyddfa yr "Herald," lle y bu am dymor byr pan yr aeth yn ol i'r ysgol. Aeth i swyddfa yr "Evening Telegraph." a berchenogid gan T. R. McQuade a James McIver, i ddysgu argraffu. Arosodd yno hyd 1862, pan yr aeth i weithio i swyddfa yr "Observer," lle y gwnaed ef yn bengweithiwr yn 1872, ac y parhaodd hyd y llosgwyd y lle i lawr yn 1884. Yn fuan ar ol hyny cychwynodd swyddfa argraffu ei hun; ac yn ddiweddarach cymerodd ei fab yn rhanol ag ef.
Cyfrifid ef yn ddyn ymddiriedol ac yn weithiwr gofalus, a rhydd y rhai y bu yn eu gwasanaethu air da iddo. Mewn gwladyddiaeth, Gwerinwr oedd.
Dygwyd ef i fyny gyda'r Annibynwyr, ac arferai fod yn aelod o eglwys Gymreig Bethesda; ond er's blynyddau aelod ydoedd o eglwys Annibynol Seisnig (Plymouth), a bu am hir amser yn ymddiriedolwr. Yr oedd hefyd yn perthyn i'r Masons, y Cymreigyddion, yr Iforiaid a'r Gymdeithas Elusengar. Yr oedd yn Ifor o adeg sefydliad Cyfrinfa "Goronwy," ac yn drysorydd er 1875. Bu yn llywydd y Gymdeithas Elusengar, ac yn drefnwr am flynyddoedd.
Priododd ddwywaith - y tro cyntaf gyda Miss Almeda E. Myers, yr hon fu farw yn 1862; ac yna gyda Miss Ann E. Jones, yr hon a adewir yn weddw gydag un mab, E. Searles Jones. Y mae iddo un brawd a pheidair chwaer: R. D. Jones, Minneapolis, Minnesota; Mrs. J. W. Thomas, Minneapolis. Minnesota; Mrs. David Richards, Aurora, Illinois; a Misses Kate F. a Nellie L. Jones yn Utica.
Cafodd angladd anrhydeddus iawn ddydd Gwener, ac aelodau y gwahanol gymdeithasau y perthynai iddynt yn cerdded yn orymdaiith o flaen y cerbydau. Yr oedd y cymdeithasau wedi anfon blodau hardd i'r teulu o barch i'w goffadwriaeth; a thynai "telyn" brydferth y Cymreigyddion sylw arbenig.
Gweinydwyd gan y Parch. Dr. Gwesyn Jones a Mr. Tweedy.