MR. WILLIAM MORGAN JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Y DRYDYDD GWAITH MAE'R GOEL.
Amryw flynyddau yn ol collodd William Morgan Jones o Bangor, Pennsylvania, lygaid trwy ddamwain, ac ofnid am ei fywyd. Dwy flynedd yn ol drylliwyd ei benglog yn ddrwg gan ffrwydrad yn y chwarel, ond adferwyd ef.Yr ddiweddaf, pa fodd bynag, profodd y drydedd ddamwain yn angeuol iddo. Gwasgwyd ei goes mor ddrwg yn chwarel y Standard fel y bu raid i'r meddygon ei thori, ac nis gallodd yntau ddal y driniaeth. Bu farw yn mhen ychydig oriau, yn 40 mlwydd.
Genedigol oedd o Llanllyfni, Sir Gaernarfon, ac y mae y Parch. John Morgan Jones, gweinidog enwog gyda y T. C., yn frawd iddo.
Daeth tyrfa luosog o'r Cymry i'w gladdedigaeth. Gweinyddwyd gan y gweinidogion Cymreig. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei ol, a chydymdeimlir yn fawr a'r teulu trallodus.