MRS. WINIFRED JONES. BRISTOL GROVE, MINNESOTA.
Bu farw yn ei chartref, Mehefin 27ain, 1900, wedi dyoddef cystudd trwm iawn am i amryw fisoedd.Ganwyd Winifred Mawrth 17eg, 1845, yn Cefn Trefor, Talysarnau, Sir Feirionydd. Yr oedd yn ferch i Richard a Jane Jones, a daeth i'r wlad hon pan yn dair oed.
Bu farw ei thad ar eu glaniad yn New York. Cafbdd ei magu gyda ei thaid a'i nain, Capten Griffith Roberts, yn ardal y Llwyn, gerllaw Portage Prairie, Wisconsin.
Yr oedd ei thaid a'i nain yn Wesleyaid selog, a dygwyd hithau i fyny gyda yr enwad hwnw yn nghapel y Llwyn, lle yr oedd achos gan y Wesleyaid y pryd hwnw. Yr oedd o feddwl a chyneddfau cyflym a deallus yn naturiol, a daeth yn ysgolheiges dda yn ieuanc, a bu yn cadw ysgolion dyddiol am amryw dymorau.
Yn 1863 priododd gyda Mr. William R. Jones, Waterside, Portage Prairie, ac yn Mai, 1866, symudasant i Bristol Grove, lle y ganwyd iddynt chwech o feibion ac un ferch. Yn 1873 cawsant brofedigaeth fawr trwy gladdu tri o'r bechgyn o fewn pythefnos o amser, o'r scarlet fever.
Yn 1876 symudasant i Lime Spring, a buont yno wyth mlynedd, yna symudasant yn ôl i Bristol Grove, lle y gorphenodd ei gyrfa. Ei hafiechyd oedd y cancer.
Yr oedd y teulu wedi codi i amgylchiadau cysurus, a gwnaeth Mr. Jones a'r teulu bob peth yn eu gallu er cael gwellhad iddi. Bu o dan operation yn Minneapolis, ond i ddim diyben, gan fod y cancer wedi gafael yn angeuol ynddi, er galar mawr a cholled i'w theulu; ond yr ydym yn dra hyderus fod marw yn elw iddi hi.
Yr oedd Mrs. Jones yn wraig o gyneddfau meddyliol tra bywiog a chryfion, ac o feddwl ymchwilgar a gwybodaeth eangach na'r cyffredin, ac o dueddfryd tra chrefyddol o'i mebyd. Yr oedd yn weithgar gyda chrefydd, yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn mhob man lle y byddai galwad am dani. Gadawodd fwlch mawr ar ei hol yn y teulu, yn yr eglwys, ac yn yr ardal yn gyffredinol. Pan ddaeth hi a'i phriod i'r ardal gyntaf yr oedd y Cymry yn ychydig o nifer, a'r achos crefyddol yn wan. Yr oedd ganddi deulu ieuanc i ofalu am danynt, ond byddai yn selog a chyson yn y moddion, a phob amser yn hoff o ymddyddan am bethau crefyddol.
Dangoswyd parch mawr i'w choffadwriaeth, o herwydd cafodd yr angladd lluosocaf a fu yn yr ardal erioed. Dywedir fod dros gant o gerbydau yno.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. R. Vaughan Griffith, O. R. Morris a J. Broadwater. Rhoed y chwaer ragorol hon forphwys yn nghladdfa y teulu mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol. Yr oedd wedi dewis yr adnod gyntaf o'r bumed benod o'r ail Corinthiaid yn destyn sylwadau ar ddydd ei hangladd, a chwech o'i hen gymydogion yn elorgludwyr. Yr oedd cymdeithas Rebecca wedi gofalu am orchuddio yr arch â blodau hardd a gwerthfawr. Duw pob dyddanwch a fyddo yn nodded a chysur i'r teulu yn eu trallod, ac nid rhaid iddynt dristau fel rhai heb obaith.
O. R. Morris.