MRS. WINIFRED JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 19eg, 1900, yn ei chartref, 96, John Street, Utica, New York, Mrs. Winifred Jones, priod J. Walter Jones, ar ol cystudd o 14 wythnos.Ganwyd hi yn Dolgellau, Gogledd Cymru, Gorphenaf 1863, ac yn ferch i'r diweddar John M. Jones, Blandina Street. Daeth i'r ddinas tua 30 mlynedd yn ol gyda'i rhieni, ac yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes.
Awst 31ain, 1884, ymbriododd a Mr. Jones, yr hwn gyda dau o blant a adewir. Gedy hefyd mam weddw, Mrs. Margaret M. Jones a dau frawd, William M. Jones, St. Paul, a John M. Jones, Utica.
Yr oedd yn aelod o eglwys y Coke Memorial.