MR. ROBERT R. LEWIS. WARRIOR RUN, PENNSYLVANIA.

Marwolaeth Un Arall o Ffyddloniaid Eglwys y T.C.

Warrior Run, Pennsylvania, Chwefror 8fed. Mae angeu yn tori i lawr yr hen bobl yn lled gyflym yn ein hardal y gauaf hwn. Heddyw mae genyf y gorchwyl pruddaidd o gofnodi hanes marwolaeth a chladddedigaeth yr hen gymeriad anwyl Robert Lewis. Cymerwyd ef yn glaf oddeutu deng wythnos yn ol o'r cancer yn y cylla. Dyoddefodd yn dawel nodedig, ac yr oedd am wella ar hyd ei salwoh hyd o fewn dau ddiwrnod cyn ei farwolaeth, pryd y dywedodd ei fod am fyned gartref, ac am iddynt ganu yn ei angladd "Cawn Orphwys yn y Nefoedd," yr hyn a wnaed gyda theimlad dwys gan gynulleidfa fawr.

Bu farw am bedwar o'r gloch bore ddydd Sul, Chwefror 4ydd, a chladdwyd ef prydnawn dydd Mawrth canlynol yn Hanover Green, pryd y gwasanaethwyd gan y Red Men a'r Parchedigion David J. Roberts a James Jenkins, Warrior Run.

Ganwyd Robert Lewis yn Cwmaelhir, plwyf Llanberis, Arfon, Gogledd Cymru, Mawrth 15fed, 1840; felly yr oedd ar ben 60 mlwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt Robert a Mary Lewis, hen bobl grefyddol a pharchus. Yr oedd ei dad yn hen dduwinydd enwog, ac nid gormod i'w dweyd mai wrth draed y Gamalial hwn y bu y Parch. M. A. Ellis, M. A., Denver, Colorado, yn dechreu cerdded yn y cyfeiriad hwn dros haner can mlynedd yn ol. Hefyd yr oedd Hugh Lewis, brawd yr ymadawedig yn llenor a bardd o gryn nod; ond yn fwy hynod fel cymeriad mawr a blaenor gyda'r Hen Gorph yn Nghwrdd Misol Arfon, ac yn uwch mewn synwyr a gwybodaeth na'r rhan fwyaf o'i frodyr y pryd hwnw.

Pan yn 24 oed priododd gwrthrych yr ysgrif hon Jennett, merch William a Mary Griffiths, Tyn, y Ffridd, Llanllechid, Arfon, a threuliasant 15 mlynedd o'u bywyd priodasol bron yn Llanberis. Daethant i'r wlad hon 21 mlynedd yn ol, gan ymsefydlu am y ddwy flynedd cyntaf yn Brownville, Maine, pryd y symudasant i Wilkesbarre, Pennsylvania, ac yn mhen pythefnos collasant dri o'u plant.

Symudasant oddiiyno i Slatington; ac yna i Morgantown, Glen Lyon, ac i Warrior Run ddeng mlyinedd yn ol.

Llwyddasant i wneyd cartref cysurus yma, a thalu am dano. Bu ef yn weithgar iawn gyda chrefydd; ac efe oedd yn gofalu am y capel er's blynyddau. Bu yn athraw ar y gwragedd am amser maith, ac efe oedd arolygwr yr ysgol y flwyddyn o'r blaen. Yr oedd yn weithgar a gofalus; ac yn nodedig o blaen i ddweyd ei feddwl mewn byd ac eglwys." Bu yn dderbynydd o'r "Drych" am 21 mlynedd.

Gadawodd ar ol briod ac un ferch, sef priod Henry X. Jones, ac un chwaer wyf yn meddwl yn Nghymru:

Hen Gristion cywir ydoedd ef,
A'i olwg beunydd tua'r nef;
Bu'n ffyddlawn odiaeth gydalr gwaith,
Yn eglwys Dduw am amser maith;
A d'wed y Meistr mawr, da was,
Ti fuost ddewr trwy gymorth gras;
Cei fyn'd yn awr i'r nefoedd wen,
A gwisgo coron ar dy ben.

Y Drych Chwefror 15fed 1900.