MR. DAVID LUMLEY, IDAHO SPRINGS, COLORADO.
Ebrill 25ain, 1900, yn ei gartref gerllaw Idaho Springs, Colorado, o'r miner's consumption, bu farw David Lumley, yn 57 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Aberllefeni, Sir Feirionydd, ac yr oedd ei dad Robert Lumley, yn ddiacon gyda y T. C. yno, ac yn gefnder i'r pregethwr adnabyddus, y Parch. Richard Lumley.
Daeth David Lumley i rodio yn llwybr y teulu mewn pethau crefyddol, ac yr oedd yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol pan yn dra ieuanc.
Tua 30 mlynedd yn ol ymbriododd a Miss Rebecca Morgan, yr hon fu yn ymgeledd gymwys iddo weddill ei oes.
Deunaw mlynedd yn ol i Gorphenaf diweddaf daethant i'r wlad hon, gan sefydlu gerllaw Idaho Springs. Gan nad oedd eglwys Gymreig yn gyfleus rhoddasant eu llythyrau eglwysig i mewn yn yr eglwys Bresbyteraidd yno. Rhoddir gair uchel iddo fel dyn pur, gwynebagored ac ymddiriedol. Yr oedd yn frawd i Robert Lumley a Mrs. Ellis Jones; Emporia, Kansas; John Lumley, Ratvon, New Mexico; Evan Lumley, Idaho Springs; Mrs. Rowland Williams, Racine, Wisconsin, heblaw un brawd a dwy Chwaer yn Nghymru, pa rai gyda ei anwyl briod sydd wedi eu gadael mewn galar ar ei ol.
Cafwyd gwasanaeth angladdol ddydd Llun, Ebrill 30ain, yn addlody Cymreig Denver, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Wilman, Idaho Springs, a'r ysgrifenydd, a rhoddwyd ei gorff i orphwys yn mynwent Fairmont.
Y Drych Mai 10fed 1900.
MR. DAVID LUMLEY, IDAHO SPRINGS, COLORADO.
In Freeland, on Wednesday, Aperil 25th, 1900, of miner's consumption, David Lumley, Afed 56 years.Mr. Lumley was born in Merionethshire, North Wales.
For the past nineteen years he has lived in Freeland, where he engaged in mining until failing health prevented. His life has been quietly spent in faithful performance of duty, and his friends have the consolation of remembering his admirable traits.
He leaves a wife, and one brother here, Mr. E. R . Lumley.
The funeral will take place at the Welsh Church in Denver on Monday, and the burial will be at Riverside.
Find a Grave
MR. DAVID LUMLEY, IDAHO SPRINGS, COLORADO.
Marwolaeth Un o Pioneers Colorado, sef D. Lumley, Trail Run.
Mae angeu a'r bedd yn teneuo rhengau pioneers Cymreig ein Talaeth. Y diweddaf i gwympo ydyw y cyfaill siriol Dafydd Lumley, Trail Run, swydd Clear Creek.Torwyd ef i lawr yn ddyn cymedrol ieuanc - 57 mlwydd oed, gan adael i alaru frawd a dwy chwaer yn yr Han Wlad, dwy chwaer a thri brawd yn America, ac hefyd weddw hiraethus.
Ganwyd yr ymadawedig yn Aberllefeni, Gogledd Cymru, ac eithrio y tair blynedd a dreuliodd yn mysg chwarelwyr goleuedig Abergynolwyn, a chwech arall yn Mlaenau Fiestiniog, yno y treuliodd ei ddyddiau yn yr Hen Wlad. Ymfudodd i'r T. U. yn 1881, yn uniongyrchol i Idaho Springs, Colorado, lle y diweddodd ei yrfa ddaearol ar y 25ain o Ebrill, a phum niwrnod yn ddiweddarach dodwyd ei ddaearol dy o'r babell hon yn "oer ddillad priddellau" mynwent harddaf y Gorllewin - Fairmount, Denver.
Disgynai y diweddar gyfaill o deulu o nod ac athrylith. Darllenodd lawer o'r lenyddiaeth buraf, a cheid olion diwylliad uwchlaw y cyffredin yn ei holl ymgomiau. Symudai gyda diwylliad yr oes. Nid llenor glasdwraidd a chrefyddwr celf oedd Dafydd Lumley, a gymerai ei arwain gan bob awel dysgeidiaeth, ond fel y mwyafrif o chwarelwyr goleuedig Meirion yn ddigon llydan ac annibynol i ffurfio barn drosto ei hun.
Trueni fod boneddwr o ddiwylliad Dafydd Lumley, boneddwr allai fod yn seren danbeidiol mewn llawer cylch o ddefnyddioldeb, wedi "enhuddo awenyddiaeth," y ddawn a roddwyd i raddau mawr, gan dreulio ugain mlynedd o'i oes fer yn neillduedd Trail Run. Llawer awr fendigedig a dreuliais yn ei gymdeithas ef a'i gydymaith diymhongar J. E. Morgan, a gallaf dystio, fel lluaws eraill gawsant yr un fraint, y byddai y cyfarfyddiad bob amser yn fuddiol ac adeiladol. Nis gallai "Brenin y dychryniadau" ddewis cylch mwy cyfrin i'w fylchio na "Trail Run," na thrindod mwy hapus i'w gwahanu na pioneers yr "Half Way House."
Rhaid ffarwelio a'r Cymrawd cywir, y dinesydd diymhongar, y cymeriad unplyg, a'r cyfaill parod a pharchedig Dafydd Lumley. Bydd ei goffadwriaeth yn gysegredig dros byth. Anhawdd mesur colled na phlymio hiraeth ei weddw drallodus a'i brawd, y bardd a'r llenor diymhongar John E. Morgan.
GAN E C. ROBERTS, HIGHLAND STATION. COLORADO.