MRS. EVAN G. LLOYD. CHICAGO.
Ar ol nychdtod maith yn y darfodedigaeth, bu farw y chwaer anwyl a siriol hon, Ionawr 14eg, 1900, yn mhen chwech wythnos ar ol claddedigaeth ei hoffus briod, cofiant yr hwn a welir yn y "Cyfaill" am Ebrill, 1900.Ganwyd hi Rhagfyr 29ain, 1848, yn nghartref ei rhieni William a Margaret Jones, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru, ac yn nghapel Bethesda, yn yr un ardal, Mai 10fed, 1871, yr ymbriododd ag Evan G. Lloyd (Llwydfab).
Ganwyd iddynt bump o blant yn Ffestiniog, yr ieuengaf yn marw yn ei fabandod, a ganwyd tri eraill yn Chicago. Ymfudiasant yn ngwanwyn 1884, a gwelsant amryw brofedigaethau yn cymylu ffurfafen eu bywyd. Mai, 1894, claddasant eu hanwyl blentyn Blodwen, ac yn Hydref, 1895, cymerodd angeu Jennie, y ferch hynaf, oddiwrthynt, a thrachefn yn Chwefror, 1898, ar fyr rybudd, bu farw Maggie yn mlodau ei dyddiau. Y mae dau fab a dwy ferch yn fyw, ac yn cydfyw dan gronglwyd y mab hynaf, yr hwn sydd yn briod, ac mewn safle barchus yn swyddfa rheilffordd yr Illinois Central.
Eiddunwn i'r plant gysgod yr Hollalluog ar hyd y daith, a chyflawnder bendithion mynyddoedd tragwyddoldeb i'w nerthu i rodio y llwybrau lle y cafodd eu hoffus rieni gysuron penaf bywyd. Atebed Duw weddiau taerion y tad, a chyflawned ddymuniadau calon y fam ar ran pob un o honynt.
Yr oedd Mrs. Lloyd yn hynod am ei sirioldeb. Cynysgaeddwyd hi a'r gallu i edrych ar ochr oleu pob cwmwl, ac anhawdd oedd teimlo yn bruddaidd yn ei chymdeithas. Bu yn briod ffyddlawn a gofalus, ac yn fam dyner a hawddgar. Yn ystod ei phreswyliad yn Chicago, gwnaeth lawer o gyfeillion, ac yr oedd cylch ei hadnabyddiaeth wedi myned yn un tra eang, fel y gwelwyd ddydd yr angladd, pryd yr oedd capel Hebron yn ìlawn, a'r torchau o flodau ar ac o amgylch yr arch yn lluosog a phrydferth.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Robt. Humphreys, R. H. Jones a'r ysgrifenydd, ac o'r capel cludwyd yr arch i fynwent Forest Home, a gosodwyd hi i orphwys yn ymyl gweddillion ei phriod.
J. C. Jones.