MR. LEWIS MORGAN. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Marwolaeth Lewis Morgan yr Hen Dad trwy ddamwain.
Ychydig fynydau wedi deuddeg o'r gloch prydnawn dydd Mawrth, pan oedd gweithwyr chwarel No. 5 perthynol i Gen. W. H. Hughes yn ail-ymaflyd yn eu goruchwylion ar ol mwynhau eu ciniaw fel arfer, a diau nad oedd neb o honynt efellai yn dychymygu fod dim perygl neillduol yn ol pob golwg felly i'w goddiweddyd, yn sydyn clywid swn tanchwa, a chafwyd fod rhan o'r graig wedi rhoi ffordd gan ddisgyn ar gefn yr hen dad Lewis Morgan, yr hwn a weithiai dani, nes ei gladdiu gan rai tunelli o rwbel.Yn uniongyrchol aed, at y gorchwyl o glirio y cyfryw er dod o hyd i'r corff, yr hyn a gymerodd gryn amser. Pan ddeuwyd o hyd, iddo cafwyd ei fod wedi ei falurio yn ddirfawr, yn gymaint felly fel nas gallesid byth adnabod ei berson. Rhestrir hon yn mhlith rhai o'r trychinebau mwyaf echrydus a gymerodd le yn hanes ein llech-chwarelau ers rhai blynyddau.
Y mae y tymor hwn o'r flwyddyn fel rheol yn beryglus yn y chwarelau, gan fod pobpeth yn ystod tymor y gauaf yn rhewi, ac yna yn y gwanwyn yn dadmer ac yn rhyddhau. Ond dywedir nad oedd a fyno hyny ddim a'r amgylchiad presenol. Buan y taenwyd y newydd i glustiau ein hardalwyr, yr hwn a barodd ofid a galar cyffredinol, gan fod Mr. Morgan yn gymeriad a gerid ac a berchid gan bob dyn; ac heblaw hyny yr oedd sydynrwydd yr alwad a'r diwedd ofnadwy dderbynioodd yn ddigon i ddryllio y calonau mwyaf celyd.
Ond gresyn mor ddystyr a chalon-galed ydyw rhai pobl! Ond y mae pob lle i gredu er y cyfan fod y brawd ymadawedig yn gwbl barod i gyfarfod a'i Farnwr, yr hyn sydd yn gysur mawr ac yn gynorthwy neillduol i'w deulu i ddal y brofedigaeth chwerw.
Yr oedd yn 62 mlwydd oed, ac yn enedigol o Penmorfa, Sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad hon yn Mai 1886, gan ymsefydlu yma, ond byr fu ei arosiad a symudodd, i Arvonia, Va. Wedi byw yno am ysbaid o naw mlynedd, penderfynodd dalu ymweliaid a Chymru, lle yr arosodd am dair blynedd. Naw mis yn ol dychwelodd yma, y tro hwn i aros weddill ei oes gyda'i feibion.
Yn ystod yr amser hwn adeiladodd dy iddo ei hun a'i deulu, yn yr hwn yr oeddynt wedi sefydlu yn gysurus ychydig fisoedd yn ol. Yr oedd yn aelod ffyddlon a dichlynaidd o eglwys Jerusalem, ac yn sicr fe deimlir colled nid bychan ar ei ol. Gadawa briod a dau fab, William a Lewis, yn nghyd a brawd yn Arvonia.
Gweinyddwyd y gwasanaeth angladdol yn y ty ac wrth y bedd yn Mettowee Valley Cemetery prydnawn dydd Gwener gan y Parchn. Edwwards a Williams, ac yr oedd tyrfa luosog: yn dystion o'r amgylchiad. Nawdd y nef a fyddo dros y teulu yn eu galar. Fel hen gyfeillion iddo hwyrach yr ysgrifena y Parch. Lot Lake neu Syllog ychydig adgofion amdano i'r "Drych" yn y dyfodol agos.