MR. ROBERTS M. MORGANS. FORT LOGAN. H. ROOTS HOSPITAL, ARKANSAS.
Cymro Ieuanc o Cincinnati yn cael ei gladdu gydag Anrhydedd Milwrol.
Bu farw y milwr ieuanc Robert M. Morgans o Cincinnati, ar y 25ain o fis Mawrth yn Fort Logan H. Roots Hospital, Arkansas; a rhoddwyd ei weddillion i orphwys, yn ol ei ddymuniad, yn y National Cemetery yn mhlith y meirw-filwyr.Ganwyd ef mewn lle o'r enw Cwm Leision, yn nghanol plwyf Llanfachreth, Meirionydd.
Daeth i'r wlad hon tua 14 mlynedd yn ol, pan ond 13 oed, felly buasai yn 27 oed yn Mai nesaf. Yr oedd wedi dysgu y grefft o lyfr-rwymydd gyda Robert Clarke and Co. yn Cincinnati.
Ar doriad allan y rhyfel rhwng Spaen ac America, rhoddodd ei le i fyny, ac ymrestrodd yn y First Ohio Gantry. Bu y parodrwydd: gyda'r hwn y cymerodd at ei orchwylion newydd, cyflymder oedd yn ei arddangos i addysgu milwriaeth yn gyfryw ag a'i dygodd i sylw a ffafriaeth swyddogion ei gatrawd. Derbyniodd gymeradwyaeth am ei ddyrchafiad, ond collodd bob gobaith pryd y llaw-nodwyd y Protocol.
Ar doriad allan y rhyfel yn y Phillipines, gwnaeth gais am gael ymuno a'r Regulars, a llwyddodd. Neillduwyd i'r First Infantry yn Havana, a gwnaeth eto argraff dda fel gyda'r gwirfoddolwyr; ond yn anffodus nid oedd ei gyfansoddiad yn ddigon cryf i sefyll caledwaith a pheryglon y maes-filwr. Yr oedd hinsawdd fradwrus Cuba wedi addfedu hadau afiechyd yn ei gyfansoddiad oeddynt wedi ei hau yn Chickamauga. Pan alwyd y fyddin gartrefol yn ol yr oedd ef yn eu plith fel meth-filwr; ac ar ol byr arosiad yn Leavensworth, Kansas, daeth gyda'r First Infantry i Fort Roots, yr hwn le fel y profodd i fod ei orphwysfa olaf.
Bu yn hynod wael am tua dwy wythnos. Ddydd Meircher, cyn ei farwolaeth, pellebrodd y Post Surgeon at ei dad yn Cincinnati fod y diiwedd yn agos. Cychwynodd ei chwaer Myfanwy yno nos Iau, a chyraeddodd yno bore Sadwrn. Yr oedd ei brawd eto yn fyw ac yn ei hadnabod; felly cafodd hi y fraint o weini iddo mewn tynerwch hyd ei ymddatodiad. Er mewn estron wlad, dangoswyd iddynt bob tynerwch a charedigrwydd. Dyma eiriau un o'r swyddogion. "Morgans seemed to possess in a marked degree the esteem of his comrades all. Expressed regret at his untimely demise. His last request was that he be allowed to sleep among the soldier dead in the National Cemetery."
Gobeothiwn fod gweddiau ei anwyl fam, yr hon oedd wedi ei ragflaenu, wedi cael eu hateb ar ei ran, a'u bod wedi cydgyfarfod yn ngwlad yr aur delynau, yn fwy na choncwerwyr trwy yr hwn a'u carodd. Y mae Cymry Cincinnati mewn cydymdeimlad dwys a'r tad galarus, sef John Morgan, Orting Building, yn ei drallod. Taened y nef edyn rhagluniaeth dros y tad a'r brodyr a'r chwiorydd yn eu galar.
Cyfaill.