MRS. JANE WILLIAMS. FRANKFORT, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.
Dydd Sadwrn, bu farw Jane Williams, gwraig John Morris, Litchfield, yn dra sydyn, er nad oedd wedi mwynhau yr iechyd goreu er's tro.Ganwyd hi yn Sir Feirionydd, Tachwedd 1af, 1823. Ymfudodd i America yn 1841; ac yn 1862 priododd Mr. Morris.
Yr oedd yn aelod gyda'r M. E. Heblaw ei phriod gadawodd ddau fab, David Morris o Utica, a Samuel Morris, Litchfield; a thair merch - Mrs. Alfred Ingersoll, Mrs. Thomas Balch a Mrs. W. E. Marnott. Remsen, N. Y.