MR. JOHN F. MORRIS. GOMER, OHIO.

Bu farw John F. Morris, Postfeistr Gomer, Ohio, ar yr 8fed cyfisol, o'r cancr yn y cylla.

Yr oedd yn ddyn tawel a diymhongar, a chyflawnodd ei swydd gyda chymeradwyaeth gyffredinol.

Ganwyd ef yn Towyn, Meirionydd yn 1839. Gadawodd ar ei ol briod, yr hon aethai i Gymru fisoedd yn ol er mwyn ei hiechyd, ac yr oedd wedi cychwwyn o Lerpwl, tuag adref y diwrnod bu ei phriod farw; hefyd dwy ferch Misses Bessie ac Alice Morris, dwy athrawesau goreu Lima.

Yn ystod y rhyfel cartrefol gwasanaethodd Mr Morris am dair blynedd fel aelod o'r 5th Regiment of Cavalry, a chafodd ollyngdod anrhydeddus yn Savannah, Ionawr 26ain 1865.

Claddwyd ef yn Gomer, ddyd Sul, y Parchn. R. Lloyd Roberts, J. G. Thomas a Mr. Gower yn gweinyddu.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed, 1900.