MR. MORRIS E. MORRIS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.

Hydref 26ain, 1900, yn Nelsom, Madison County, New York, Morris E. Morris, yn 65 mlwydd oed, o anhwylder ar y cylla. Nid oedd yn teimlo yn dda er's tair wythnos, ond yr oedd yn codi ac o gwmpas bob dydd.

Ar y 30ain cynfisol, ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo, y Parch. John J. Evans yn gweinyddu yn hynod doddedig.

Ymfudodd Mr. Morris i Nelson gyda'i rieni Elran a Jane Morris, o ardal Arthog, swydd Feirionydd. Efe oedd yr hynaf o saith o blant - oll wedi marw.

Bu yn briod ddwy waith. Claddodd ei wraig gyntaf flynyddau lawer yn ol, a 27 mlynedd yn ol priododd Ann Hughes o'r lle hwn, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymwys.

Fe1 dyn, yr oedd yn ddidderbynwyneb, yn unplyg; yn addfwyn a boneddigaidd, ac yn feddianol ar lawer o ragoriaethau. Fel Cristion, yr oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd y gwr yr ymdrechai i'w ganlyn. Darllenai a myfyriai lawer ar ei Feibl; ac yr oedd yn nodedig o ffyddlon, fel y bydd yma golled mewn llawer cylch ar ei ol - yn y teulu, yn y gyfeillach, y cwrdd gweddi a'r bregeth. Hefyd, fel athraw yn yr ysgol Sul, nid oedd ei ragorach.

Ymgysured ei briod a'i berthynasau yn y gobaith o gael ei gyfarfod eto yn y wlad lle ni raid ymadael mwy.
Aelod.

Y Drych Tachwedd 15fed 1900.