MRS. SYDNA MORRIS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mai 6ed, 1900, yn ei chartref gerllaw Remsen, New York, bu farw Mrs. Sydna Morris, gweddw y diweddar Mr. John Morris, East Steuben, ar ôl byr gystudd, yn 69 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Morris yn ferch i Robert a Jane Williams, plwyf Rhiw, Lleyn, Gogledd Cymru.

Ymbriododd gyda Mr. Morris yn Nghymru, a daethant i'r wlad hon yn 1852, gan ymsefydlu yn Remsen a'r cylchoedd, ac am y 27 mlynedd diweddaf buont yn amaethu y fferm, lle buont feirw.

Yr oedd Mrs. Morris wedi ei magu yn grefyddol gartref yn Nghymu, a pharhaodd yn ffyddlawn gydag achos y Gwaredwr drwy ei bywyd. Ar adeg ei marwolaeth yr oedd yn aelod parchus yn eglwys y T. C. yn Penygraig.

Hefyd, nodweddid ei bywyd gan lawer o rinweddau cymdeithasol a theuluol - gan fod, yn ddiwyd a gofalus, yn garedig a chymwynasgar. Perchid hi yn uchel yn y gymydogaeth gan bawb a'i hadwaenai, ac yn ei chartref coleddid y serch a'r parch mwyaf iddi gan ei theulu - fel priod ffyddlawn a serchog, ac fel mam dyner a gofalus.

Gwanaidd oedd o ran ei hiechyd yn y blynyddau diweddaf, fel nad allai fyned i foddion gras nac i wneyd ymweliadau yn yr ardal mor aml ag yr arferai flynyddau yn ôl, ond yr oedd ei hysbryd yn cael ei nawseiddio gan brofiad crefyddol, ac yr oedd ei ffydd yn pwyso ar y Gwaredwr hyd y diwedd.

Bu ei phriod farw tua thair blynedd yn ôl. Gadawodd bedair o ferched mewn galar dwys ar ei hol, sef Mrs. Hugh T. Hughes, Nant; Mrs. Thomas T. Hughes a Miss Fanny Morris, East Steuben; a Mrs. John H. Evans, Rome, New York.

Y mae un brawd hefyd yn ei goroesi, allan o wyth o frodyr a chwiorydd, sef Mr. John R. Williams, East Steuben, New York.

Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Mercher canlynol, Mai 9fed, pan y daeth lluaws o gyfeillion a chymydogion yn nghyd fel arwydd o'u parch i'w choffadwriaeth, ac o gydymdeimlad a'r teulu. Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol yn y Capel Ucha, y Parch. E. C. Evans yn pregethu.

Claddwyd y gweddillion yn meddrod y teulu yn y fynwent gerllaw.
E. C. Evans.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1900.